Cipolwg ar gelf anhysbys yn Oriel Gelf Glynn Vivian
Bu'r rheini sy'n dwlu ar ddirgelwch yn cael cip y tu ôl i'r llenni i weld sut yr ymchwilir i ddarn o gelf anhysbys mewn oriel yn Abertawe.
Clywsant hanes yr eitem, a sut gall o bosib fod yn ddarn pwysig o waith gan hen feistr Eidalaidd wrth iddynt fynd ar daith dywys o amgylch stiwdio gadwraeth paentiadau olew yr oriel.
Clywsant yr hanes gan swyddog cadwraeth oriel Cyngor Abertawe, Jenny Williamson, sy'n gyfrifol am arwain y gwaith cadwraeth.
Cafodd y paentiad anhysbys, sydd oddeutu 107cm wrth 216cm mewn maint, ei roi i'r oriel bron 100 mlynedd yn ôl gan John Dyer, dyn busnes cyfoethog o Abertawe a oedd wedi hel ei arian fel masnachwr blawd.
Fodd bynnag, roedd y paentiad mewn cyflwr gwael ar y pryd. Cafodd ei storio i ffwrdd o olwg y cyhoedd am nifer o flynyddoedd.
Bydd y gwaith cadwraeth ac adfer llawn yn cymryd hyd at ddwy flynedd.
Llun: Swyddog Cadwraeth Oriel Gelf Glynn Vivian, Jenny Williamson, wrthi'n gweithio ar y paentiad olew anhysbys.