Gwaith ar fin dechrau ar brif welliannau Wind Street
Disgwylir i waith adeiladau ddechrau a fydd yn newid Wind Street yn amgylchedd sy'n fwy addas i deuluoedd.
Bydd y contractwr o dde Cymru, Griffiths, yn ymgymryd â gwaith Cyngor Abertawe i wella'r stryd yng nghanol y ddinas.
Mae hyn yn dilyn ymgynghoriad â busnesau a phreswylwyr lleol.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet y Cyngor dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, "Rwy'n falch y gall y gwaith pwysig hwn ddechrau.
"Rydym am i Wind Street fod yn amgylchedd lletygarwch o safon sy'n addas i deuluoedd.
"Mae'r gwaith paratoi wedi dechrau yn ystod y pandemig, mae hyn yn wedi cynnwys cynnal ymgynghoriad â masnachwyr a chynrychiolwyr amgylcheddol, pobl ag anableddau a phreswylwyr."