Pedwar person arall wedi'u helpu yn ystod cyfnod anodd i gael swyddi yn Abertawe
Nid oes gan Christopher Evans, Justin Davies-Jones, Raymond Ray ac Angela Bowen, o Abertawe, ddim yn gyffredin.
Fodd bynnag, un peth sy'n gyffredin rhyngddynt yw eu brwdfrydedd newydd at y gweithle ar ôl llawer o flynyddoedd â rhagolygon gwael.
Mae Christopher yn weithiwr cefnogi i Gonsortiwm Bywydau Cymunedol, mae Justin yn yrrwr wagen fforch godi i Uneek Clothing, mae Raymond yn borthor cegin i Grape and Olive, Abertawe, ac mae Angela'n gynorthwy-ydd gwasanaethau cwsmeriaid i Grŵp Tai Coastal.
Cafodd pob un ohonynt gymorth wrth gychwyn eu swyddi newydd gan swyddogion Cyngor Abertawe sy'n gysylltiedig â'r cynllun cyflogaeth Gweithffyrdd+, sydd wedi'i gefnogi gan gyllid yr UE drwy Lywodraeth Cymru.
Meddai Alyson Pugh, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau Gwell (Pobl), "Mae'n newyddion gwych bod Christopher, Justin, Raymond ac Angela bellach wedi dod o hyd i waith maent yn ei fwynhau ar ôl iddynt fod yn ddi-waith am amrywiaeth o resymau.
"Mae hwn yn dangos pŵer Gweithffyrdd+. Anogaf y sawl sy'n ei chael hi'n anodd ymdopi â diweithdra tymor hir ystyried defnyddio'r cynllun fel ffordd tuag at ddyfodol disglair.
"Mae'r rhaglen yn helpu pobl i adennill eu hyder a chyflawni canlyniadau gwych."
Dechreuodd Christopher o Dreforys, sy'n 47 oed, gyfnod o ddiweithdra a barodd am 12 mlynedd yn 2006 pan ddaeth ei yrfa fel trydanwr i ben yn annisgwyl.
Rhwystrwyd Justin rhag cael swydd gan ei broblemau iechyd difrifol nes iddo dderbyn cymorth gan Gweithffyrdd+, bron i ddegawd ar ôl iddo adael yr ysgol yn 14 oed.
Roedd Raymond o Mount Pleasant, sy'n 53 oed,wedi profi cyfnodau ysbeidiol o ddiweithdra am 15 mlynedd oherwydd iddo wynebu anawsterau clywed, diffyg cymwysterau a chyfrifoldebau gofal plant.
Hyd at ddwy flynedd yn ôl, roedd Angela heb weithio am 17 o flynyddoedd oherwydd iechyd gwael a oedd wedi dod â'i chyflogaeth i ben. Helpodd Gweithffyrdd+ hi i ail-fagu ei sgiliau cyflogaeth a'i hyder.
Mae Cyngor Abertawe'n un o sawl partner awdurdod lleol yn y cynllun Gweithffyrdd+ sy'n helpu cyfranogwyr sydd wedi bod yn ddi-waith yn y tymor hir i ennill gwaith.
Yn Abertawe, mae'n cael ei gefnogi gan gyllid yr UE a'r cyngor a'i reoli gan arbenigwyr y tîm adfywio mewn cyllid allanol.
I siarad â Thîm Gweithffyrdd+ Abertawe, ffoniwch 01792 637112 neu ewch i www.workways.wales/?lang=cy-gb
Llun Raymond Ray, Grape and Olive, Abertawe.