Toglo gwelededd dewislen symudol

Addasiadau domestig

Gallwn roi cyngor ar lawer o waith adeiladu domestig. Mae hyn yn cynnwys addasu lloftydd, diogelwch trydanol, ffenestri a drysau newydd ac adeiladau sydd wedi'u heithrio.

Mae'n bwysig cadw at y rheoliadau adeiladu. Os na fyddwch yn hysbysu'r cyngor am y gwaith a wneir, gallech fod yn troseddu. Efallai bydd angen cyflwyno tystiolaeth o gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu hefyd os ydych am werthu eich cartref yn y dyfodol.

Hyd yn oes os yw eich cartref wedi'i eithrio, efallai y bydd angen i chi fodloni Rhan P y rheoliadau adeiladu, sy'n cynnwys diogelwch trydanol.

Pobl gymwys

Mae cynllun pobl gymwys yn ymdrin â rhai meysydd o waith adeiladu. Os ydych yn defnyddio contractwr hunan-ardystiedig, mae'n rhaid i chi sicrhau ei fod wedi'i gofrestru ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwirio a yw'r contractwr yn gofrestredig ar y wefan Cofrestr Pobl Gymwys (Yn agor ffenestr newydd). Pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, rhaid iddynt roi tystysgrif i chi'n cadarnhau bod y gwaith yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu.

 

Os oes angen gwybodaeth bellach arnoch am unrhyw ran o'n gwasanaeth, ffoniwch ni ar 01792 635636 neu e-bostiwch rheoliadeiladau@abertawe.gov.uk.

Adeiladau wedi'u heithrio o reoliadau adeiladu

Mae rhai adeiladau a all fod wedi'u heithrio o reoliadau adeiladu. Gall y rhain gynnwys ystafelloedd gwydr, pyrth, garejis cartref, adeiladau bach ar wahân neu ffenestri newydd.

Addasu garej

Bydd angen i chi wneud cais am gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu os ydych yn bwriadu addasu garej.

Rhoi ystafelloedd yn y to

Bydd angen i chi ymgeisio am gymeradwyaeth rheoliadau adeiladu os ydych yn bwriadu rhoi ystafell yn y to.

Deddf Gwahanfuriau etc. 1996

Mae'r Ddeddf Gwahanfuriau yn rhoi arweiniad ar atal a datrys anghydfodau am wahanfuriau, waliau terfyn a chloddiadau ger adeiladau cyfagos.

Ailosod ffenestri a drysau

Mae'r holl wydriad newydd yn dod dan reoliadau adeiladu. Golyga hyn bod yn rhaid i unrhyw un sy'n gosod ffenestri neu ddrysau newydd gydymffurfio â safonau perfformiad thermol llym.

Gwaith trydanol

Os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun, chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod unrhyw waith trydanol a wneir yn ddiogel o dan Rhan P y rheoliadau adeiladu

Diffoddiaduron tân awtomatig (taenellwyr)

Mae rheoliadau adeiladu yng Nghymru'n nodi bod yn rhaid gosod system diffoddiaduron tân awtomatig (a adwaenir yn gyffredinol fel system taenellu dŵr) mewn cartrefi newydd a chartrefi a addaswyd.

Ail-doi a gwella ynysiad thermol waliau a lloriau

Os ydych chi'n gosod to gwastad neu oleddf newydd, mae angen i chi wneud cais am Gymeradwyaeth Rheoliadau Adeiladu cyn gwneud unrhyw waith ar y to, hyd yn oed os ydych chi'n gosod to tebyg.

Waliau cynnal

Os ydych chi'n adeiladu wal sy'n cynnal tir dros 1.5m mewn uchder, bydd angen i chi gyflwyno cais. Mae hyn yn berthnasol i waliau cynnal newydd neu estyn un sydd eisoes yn bodoli.
Close Dewis iaith