Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Beth yw adolygiad blynyddol o'r datganiad?

Os oes gan eich plentyn Ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), rhaid i'r awdurdod lleol adolygu'r datganiad hwnnw bob blwyddyn.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid cynnal adolygiad o'r cynnydd y mae'r plentyn neu'r person ifanc yn ei wneud tuag at yr amcanion yn y datganiad o leiaf bob 12 mis. Gellir adolygu datganiadau'n amlach lle bo'r angen.

Ar gyfer disgyblion mewn ysgolion prif ffrwd, yr adolygiadau blynyddol a geir ym Mlwyddyn 5 yw'r rhai allweddol lle dylid cynnal trafodaeth am y math o ysgol y dylent ei mynychu ar gyfer y cam nesaf.

Os argymhellir lle mewn ysgol arbennig neu uned adnoddau sy'n gysylltiedig ag ysgol brif ffrwd, bydd angen i bapurau'r disgybl fynd gerbron y panel i'w hystyried. Bydd angen i chi gyflwyno cais i'r panel adolygu ym Mlwyddyn 10 os bwriedir gofyn am le mewn ysgol arbennig ar gyfer darpariaeth ol-16.

Os cytunir ar le arbenigol, rhaid diwygio dataniad y disgybl erbyn 15 Chwefror fel y gall symud i'w ysgol newydd yn y mis Medi canlynol.

Cyn yr adolygiad blynyddol

Bythefnos cyn dechrau'r tymor ysgol, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r pennaeth, yn ysgrifenedig, o'r disgyblion y mae'n rhaid adolygu eu datganiadau yn ystod y tymor hwnnw.

Bydd y pennaeth yn eich gwahodd chi ac unrhyw weithwyr proffesiynol i'r cyfarfod adolygu. Bydd y pennaeth wedyn yn gofyn am gyngor ysgrifenedig ar gynnydd eich plentyn a phriodoldeb y datganiad gennych chi ac unrhyw weithwyr proffesiynol y mae'r awdurdod lleol a/neu'r pennaeth yn ystyried eu bod yn briodol.

O leiaf bythefnos cyn y cyfarfod adolygu, bydd y pennaeth yn cylchredeg unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig ac yn gwahodd sylwadau. Mae eich barn yn bwysig iawn. Wrth ddarparu'ch cyngor ysgrifenedig a darllen y cyngor gan eraill sy'n rhan o'r broses adolygu flynyddol, efallai byddwch am feddwl am y pynciau a grybwyllwyd pan wnaethoch ddarparu cyngor rhiant ar gyfer asesiad statudol eich plentyn a gwirio datganiad arfaethedig eich plentyn.

Y cyfarfod adolygu

Yn aml bydd y cyfarfod adolygu'n eich cynnwys chi, athrawon o ysgol eich plentyn ac efallai rhywun o'r awdurdod lleol yn unig. Nid yw gweithwyr proffesiynol eraill fel arfer yn mynd i gyfarfod adolygu blynyddol ond byddant yn mynd iddo i drafod anghenion penodol neu os yw'r cyfarfod adolygu blynyddol yn trafod trosglwyddiad eich plentyn. Gallwch fynd a ffrind, perthynas neu rywun o'r Gwasanaeth Partneriaeth Rhieni i'r cyfarfod adolygu i'ch cefnogi.

Dylai'r cyfarfod adolygu ystyried a yw datganiad eich plentyn yn dal yn briodol, os oes unrhyw ddiwygiadau i'w gwneud i'r datganiad ac a ddylai'r awdurdod lleol barhau i gynnal y datganiad.

Dylai'r cyfarfod edrych ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas a'r targedau blaenorol a darparu cyfres newydd o dargedau ar gyfer eich plentyn ar gyfer y flwyddyn i ddod. Dylai'r rhain gyflawni'r amcanion a nodwyd yn y datganiad.

Ar ol y cyfarfod adolygu

Heb fod yn hwyrach na deng niwrnod ar ol yr adolygiad, rhaid i'r pennaeth lunio a chyflwyno adroddiad i'r awdurdod lleol.

Bydd yr adroddiad yn crynhoi casgliadau'r cyfarfod ac yn cynnwys argymhellion gyda rhesymau ynghylch a ddylid diwygio neu gynnal y datganiad. Dylai'r pennaeth hefyd anfon copi o'r adroddiad atoch chi ac unrhyw weithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses adolygu.

Bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i ddatganiad eich plentyn.

Gallan benderfynu:

  • Diwygio (newid) y datganiad
  • Gadael y datganiad fel y mae
  • Gorffen cynnal y datganiad neu ei derfynu.

Gallwch wahodd eich Cynrychiolydd Partneriaeth Rhieni i fynd gyda chi, neu unrhyw un arall rydych yn ei ddewis. Gall eich plentyn hefyd fynd i ran o'r cyfarfod adolygu neu'r cyfarfod cyfan, fel y bo'n briodol. Po hynaf ydyw, mwyaf tebygol y bydd o gael ei gynnwys.

Close Dewis iaith