Asesiadau Effaith Cydraddoldeb (AEC)
Mae gan Gyngor Abertawe, fel pob awdurdod cyhoeddus arall yng Nghymru, ddyletswydd gyfreithiol i asesu effaith ei holl swyddogaethau, polisïau a gweithdrefnau arfaethedig ar y grwpiau gwarchodedig a ddiffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
- oed
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred (gan gynnwys diffyg cred)
- rhyw
- tueddfryd rhywiol
Rydym yn defnyddio AEC i fodloni'r gofyniad cyfreithiol hwn. Mae ein proses AEC hefyd yn cynnwys meysydd eraill gan gynnwys:
- Y Gymraeg
- Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau'r plentyn (CCUHP)
- Tlodi ac eithrio cymdeithasol
- Cydlyniant cymunedol
- Gofalwyr
Mae ein proses AEC i gyd yn rhan o'n protocol penderfynu corfforaethol ac mae pob adroddiad AEC yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r adroddiad corfforaethol perthnasol yn: https://democracy.swansea.gov.uk/ieDocHome.aspx?bcr=1&LLL=0?Lang=cym.