Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau ailalluogi preswyl ar gyfer pobl â dementia

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi datblygu uned asesu â'r bwriad o helpu mwy o bobl â dementia i barhau i fyw gartref .

 

Beth yw uned asesu?

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Sut bydd yr uned asesu'n helpu?

Sut gallaf drefnu i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes unrhyw beth penodol y mae angen i mi ddod ag ef?

Am faint o amser y mae'r gwasanaeth ar gael?

Alla i aros yn y tymor hir?

Beth sy'n digwydd pan wyf yn yr uned asesu?

A yw Tŷ Waunarlwydd yn cynnig gwasanaethau eraill megis ffisiotherapi yn ystod fy nghyfnod yno?

Beth yw'r trefniadau ynghylch ymweliadau?

Beth fydd yn digwydd os oes gen i gefnogaeth gofal cartref eisoes?

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn dychwelyd adref?

Oes rhaid i talu am y gwasanaeth?

 

 

Beth yw uned asesu?

Mae'r uned asesu'n uned breswl arbenigol lleoli mewn cartref gofal preswyl, Tŷ Waunarlwydd ond ar wahân iddo. Mae tîm ailalluogi arbenigol sy'n cynnwys, therapyddion galwedigaethol, gweithiwr cymdeithasol a staff gofal a fydd yn gweithio gyda chi i'ch helpu i adennill galluoedd rydych wedi'u colli neu ddysgu ffyrdd newydd o wneud pethau drosoch eich hunan. Bydd pob ymdrech yn canolbwyntio ar eich dychwelyd adref gyda chefnogaeth barhaol fel y bo'n briodol.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth ar gyfer oedolion 60+ oed sy'n byw â dementia neu amhariad gwybyddol a sy'n dymuno aros yn eu cartrefi eu hunain ac mae angen cyfnod byr o ofal a chefnogaeth arnynt er mwyn i hyn fod yn bosib. Gallai hyn gynnwys pobl sydd yn eu cartrefi eu hunain ar hyn o bryd, ond mae angen cefnogaeth ychwanegol arnynt. Gallai hefyd fod ar gyfer rhywun sydd yn iach un feddugol i gael ei ryddhau o'r ysbyty ond mae angen cefnogaeth arbenigol arno i adennill sgiliau a hyder i allu dychwelyd i fyw'n ddiogel yn eu cartrefi.

Sut bydd yr uned asesu'n helpu?

Bydd yr Uned Asesu yn darparu'r ofal a chefnogaeth broffesiynol angenrheidiol i fanteisio i'r eithaf ar eich annibyniaeth o'r funud y cyrhaeddwch yn Nhŷ Waunarlwydd, gyda'r nod clir o'ch cael yn ôl yn eich cartref cyn gynted â phosib. Gallai'r gefnogaeth hon gynnwys ymweliadau cartref a chyfnodau a dreuliwyd gartref.

Mae gan staff Tŷ Waunarlwydd brofiad ac arbenigedd sylweddol wrth weithio gyda phobl â dementia â'u cefnogi. Yn Nhŷ Waunarlwydd cewch eich annog a'ch disgwyl i wneud cymaint drosoch eich hunan ag y bo modd. Mae hyn er mwyn i staff allu asesu'ch cryfderau a'ch anghenion cefnogi. Er enghraifft, cewch eich annog i wneud eich brecwast/diodydd eich hunan.

Sut gallaf drefnu i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n rhaid i bobl gael eu cyfeirio i'r gwasanaeth hwn gan weithiwr cymdeithasol. Cyn y gallwch fynd i'r Uned Asesu bydd angen i chi siarad ag un o'n staff am eich amgylchiadau. Gwneir hyn er mwyn sicrhau mai'r Uned Asesu yw'r lle mwyaf priodol i ddarparu cefnogaeth i chi. Yn ystod y sgwrs hon efallai y caiff dewisiadau eraill ar gyfer darparu gofal a chefnogaeth yn y cartref eu hystyried hefyd.

Unwaith y byddwn wedi cytuno bod yr Uned Asesu yn addas i chi, byddwn yn gwneud trefniadau ar gyfer eich arhosiad a gweithio gyda chi er mwyn i chi fynd adref cyn gynted â phosib.

Oes unrhyw beth penodol y mae angen i mi ddod ag ef?

Bydd angen arnoch newid o ddillad a gwisg nos yn ogystal â'r pethau ymolchi arferol a dillad ar gyfer eich taith adref. Hefyd, dewch â'ch holl feddyginiaeth bresennol, unrhyw gymhorthion symudedd rydych chi'n eu defnyddio a chyflenwad o'r cynnyrch dal dŵr rydych chi'n eu defnyddio. Bydd y cartref yn darparu tywelion a dillad gwely.

Am faint o amser y mae'r gwasanaeth ar gael?

Mae'r gwasanaeth yn un tymor byr, wedi'i gyfyngu gan amser sy'n canolbwyntio ar dargedau. Mae arosiadau wedi'u cyfyngu i chwe wythnos fel arfer, ond mae am faint o amser yn union y bydd angen i chi aros yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol, a gall pobl yn aros am lai na chwe wythnos. Byddwn yn ceisio cadw'ch arhosiad mor fyr â phosib er mwyn i chi ddychwelyd adref cyn gynted ag y gallwch ymdopi â hynny, gyda neu heb ofal a chefnogaeth barhaus e.e. gofal cartref.

Alla i aros yn y tymor hir?

Nid yw'n bosib newid eich arhosiad yn yr Uned Asesu i ofal preswyl tymor hwy yn Nhŷ Waunarlwydd. Os cytunir ar ddiwedd eich arhosiad, mai mwy o ofal neu ofal preswyl neu nyrsio tymor hir yw'r opsiwn i chi, yna bydd angen i chi gael asesiad ar wahân i benderfynu sut i symud i gartref gofal sy'n gallu ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. Ni ddylai hyn fod y canlyniad a fwriedir wrth gael eich derbyn i'r Uned Asesu.

Nid gwasanaeth seibiant yw'r Uned Asesu ac nid oes gennym welyau brys.

Beth sy'n digwydd pan wyf yn yr uned asesu?

O fewn y 10 diwrnod gyntaf eich arhosiad byddwn yn trefnu cyfarfod i drafod eich anghenion cefnogi a dechrau cynllunio ar gyfer eich dychweliad adref.

Ein nod yw gweithio gyda chi i fagu eich cryfder, eich sgiliau a'ch hyder.

I bobl nad oes ganddynt alluedd meddyliol, bydd rhaid i ni weithio gyda'r rhai sy'n eich adnabod er mwyn sicrhau y gwneir penderfyniadau er eich lles chi.

Efallai bydd y staff yn archwilio ffyrdd y gallai technoleg gynorthwyol eich helpu pan fyddwch yn dychwelyd adref.

Wrth i chi wneud cynnydd, gallwn drefnu i chi ymweld â'r cartref, gyda neu heb ofal a chymorth, i'ch helpu i ailymgyfarwyddo ag amgylchedd y cartref. Bydd angen trefnu trefniadau addas ar gyfer cludiant i'ch cartref ac oddi yno.

A yw Tŷ Waunarlwydd yn cynnig gwasanaethau eraill megis ffisiotherapi yn ystod fy nghyfnod yno?

Nid oes gan Tŷ Waunarlwydd staff ffisiotherapi neu nyrsio. Os oes angen y gwasanaethau hyn bydd yn rhaid iddynt eu cyrchu o dimau allanol drwy'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC).

Beth yw'r trefniadau ynghylch ymweliadau?

Nid oes gennym oriau ymweld penodol, gan fod y nod yw darparu amgylchedd cartrefol, nid clinigol. Fodd bynnag, gofynnwn i bobl ystyried adegau bwyta ac osgoi ymweld ar yr adegau hyn os oes modd.

Beth fydd yn digwydd os oes gen i gefnogaeth gofal cartref eisoes?

Os ydych eisoes yn derbyn cefnogaeth gofal cartref gan asiantaeth breifat a drefnir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, ni fyddwch yn ei derbyn yn ystod y cyfnod y byddwch yn yr Uned Asesu. (Os ydych wedi trefnu gofal neu gefnogaeth breifat eich hun, bydd angen i chi wneud eich trefniadau eich hun gyda'r darparwr.) Darperir y gofal a'r gefnogaeth angenrheidiol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a staff iechyd, yn yr Uned Asesu ac yn ystod eich ymweliadau cartref.

Beth fydd yn digwydd pan fyddaf yn dychwelyd adref?

Cyn i chi ddychwelyd adref, byddwn yn ystyried pa ofal a chefnogaeth y gallai fod eu hangen arnoch yn y tymor hir.

Bydd angen i unrhyw becyn gofal cartref gael ei drefnu gyda Tîm Gwasanaethau Asesu Gofal Preswyl (RCAS).

Ar ôl i chi ddychwelyd adref, tra'ch bod dan ofal RCAS, bydd y staff therapi galwedigaethol sy'n rhan o'r Uned Asesu'n gallu cynnig mewnbwn a chefnogaeth os oes angen.

Bydd eich asesiad yn parhau pan ddychwelwch adref gyda'r Tîm RCAS, a fydd yn asesu sut rydych yn ymdopi gartref, faint o alwadau mae eu hangen arnoch a hyd y galwadau hyn. Pan fydd staff gofal RCAS yn fodlon bod eich pecyn gofal yn iawn i chi, byddant yn rhoi'ch pecyn galwadau ar restr frocera ac yna bydd asiantaeth breifat yn parhau â'ch galwadau. Cyn i'r asiantaeth breifat gymryd drosodd o RCAS, bydd cyfarfod rhyngoch chi, RCAS a'r asiantaeth ofal newydd fel y gall ddod i'ch adnabod.

Oes rhaid i talu am y gwasanaeth?

Ni chodir tâl am chwe wythnos gyntaf y gwasanaeth asesu.

Os oes angen i chi aros yn Nhŷ Waunarlwydd am fwy na 2 wythnos, codir tâl arnoch am bob noson rydych yn aros y tu hwnt i'r 2 wythnos. Caiff asesiad ariannol ei gynnal i bennu'r union gost i chi.

Pan fydd eich asesiad wedi'i gwblhau, os bydd angen arnoch gefnogaeth gofal breswyl neu gartref barhaol, codir tâl arnoch ar y gyfradd bresennol am y gwasanaethau hyn.

 

Close Dewis iaith