Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Casgliadau ailgylchu i fflatiau

Mae'r holl wasanaethau ailgylchu wrth ymyl y ffordd ar gael i'r holl breswylwyr mewn fflatiau ar draws Abertawe.

Mae'r ffordd rydym yn casglu deunydd ailgylchu o fflatiau yn aml yn wahanol i'r ffordd rydym yn eu casglu o aelwydydd eraill oherwydd bod gan y rhan fwyaf o fflatiau storfeydd biniau cymunedol neu storfeydd biniau.

 

Sachau gwyrdd a pinc

Biniau ailgylchu

Efallai y bydd gan eich bloc fflatiau finiau ailgylchu yn eich storfa finiau, neu yn rhywle arall ar y safle megis y maes parcio.

Fel arfer mae biniau gwyrdd ar gyfer y bagiau gwyrdd, biniau pinc ar gyfer y bagiau pinc a biniau du ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu mewn bagiau du. Gallwch roi'r bagiau yn y biniau pryd bynnag y bydd angen, sy'n golygu nad oes rhaid i chi storio llawer o wastraff yn eich fflat. 

Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r biniau a'r sachau'n gywir. Os na chaiff y biniau eu defnyddio'r gywir, ni chaiff y deunyddiau ynddynt eu casglu.

Biniau griddiog

Mewn rhai blociau byddwn yn darparu biniau olwynion gwyrdd a/neu binc gyda grid metel ar eu pen. Os yw'r biniau hyn gennych, bydd angen i chi roi'r deunyddiau yn rhydd drwy'r grid yn y bin priodol (ddim yn fagiau). Gweler yr arwyddion ar ochr y biniau i weld pa ddeunyddiau sy'n cael eu derbyn ym mhob un.

Sachau rhydd yn y storfa finiau

Mewn rhai blociau o fflatiau, nid oes digon o le gyfer biniau ailgylchu ac felly gallwch storio eich sachau ailgylchu'n rhydd yn yr ystafell storio biniau neu'r storfa finiau.

Sicrhewch fod pob bag wedi'i glymu ar gau ac Ceisiwch gadw'r sachau gwyrdd ar wahân i'r sachau pinc.

Ni chesglir unrhyw sachau ailgylchu sy'n cynnwys y deunyddiau anghywir.

Sachau rhydd wrth ymyl y ffordd

Mae rhai fflatiau heb storfa finiau, sy'n ei gwneud yn anodd iawn darparu biniau, neu ardal ar gyfer storio sachau.

Os felly, gall trigolion barhau i ailgylchu drwy ddefnyddio'r sachau ailgylchu a'u rhoi wrth ymyl y ffordd ar y diwrnod casglu cywir.

 

Gwastraff bwyd

Bin bwyd cymunedol

Darperir binau defnyddiol a leinwyr am ddim i bob fflat i'w cadw yn y gegin. Gellir gwacau hwn yn y bin gwastraff bwyd cymunedol yn ol yr angen.

Bin bwyd unigol

Darperir binau defnyddiol a leinwyr am ddim i bob fflat i'w cadw yn y gegin. Yna gellir gwacau hwn yn y bin bwyd unigol mwy. Gellir naill ai storio hwn yn y storfa finiau, neu ei roi ar ymyl y ffordd i'w gasglu.

Gofynnwch i'r cwmni rheoli pa opsiwn a ddefnyddir yn eich cyfadeilad.

 

Angen mwy o offer ailgylchu?

Mewn llawer o flociau mawr gall eich gofalwr safle roi mwy o fagiau i chi. Mewn achosion eraill mae mwy o fagiau a biniau bwyd ar gael i'w casglu o lyfrgelloedd cymunedol, swyddfeydd tai a chanolfannau ailgylchu ar draws Abertawe.

Close Dewis iaith