Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Anghenion corfforol a chymhleth

Beth yw'r gwasanaeth? Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r Gwasanaeth Anghenion Corfforol a Chymhleth yn darparu Athro Arbenigol sy'n gweithio gyda phlant a'u teuluoedd, ysgolion a gweithwyr iechyd proffesiynol i sicrhau y diwellir anghenion y plentyn yn yr ysgol. Mae'r Athro Arbenigol ar gyfer Anghenion Corfforol a Chymhleth yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc a chyflyrau corfforol a meddygol cymhleth. Amlinellir lefelau darpariaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion sy'n derbyn y gwasanaeth hwn yn eu Datganiad o Angen Addysgol Arbennig ac fe'u cefnogir mewn ysgolion prif ffrwd. Gellir gwneud atgyfeiriadau i'r gwasanaeth, drwy broses banel mewn ymgynghoriad ag ysgol y disgybl os ystyrir bod y disgybl yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y ddarpariaeth hon.

Mae cysylltu ag ysgolion ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn sicrhau y diwellir anghenion y plentyn yn yr ysgol. Gall yr athro arbenigol gefnogi plant a'u teuluoedd yn ystod y cam pontio i ysgol a hefyd wrth drosglwyddo o un cyfnod i'r llall yn ystod eu bywyd ysgol. Darperir hyfforddiant trafod a llaw hefyd ac arweiniad ar anghenion gofal iechyd, a hwylusir ysgrifennu asesiadau risg.

Gellir trafod pryderon ychwanegol a'r canlynol:

Lydsay Jenkins - Athrawes Arbennigol

Ebost: lyndsay.jenkins@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith