Toglo gwelededd dewislen symudol

Anghenion dysgu cymhleth a phenodol

Beth yw'r gwasanaeth? Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae'r Athro Angehnion Dysgu Cymhleth a Phenodol yn cynnig cyngor ac arweiniad i ysgolion cynradd ac uwchradd yn Abertawe ar gyfer plant a phobl ifanc 3 i 19 oed ag anghenion dysgu cymhleth.

Mae lefelau darpariaeth y rhan fwyaf o ddisgyblion sy'n derbyn y gwasanaeth hwn wedi'u hamlinellu yn eu Datganiad o Angen Addysgol Arbennig ac fe'u cefnogir mewn ysgolion prif ffrwd. Gellir gwneud atgyfeiriadau i'r gwasanaeth, drwy broses banel AAA mewn ymgynghoriad ag ysgol y disgybl os ystyrir bod y disgybl yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y ddarpariaeth hon. Datblygir rhaglenni cefnogaeth i ddisgyblion a chefnogir staff allweddol i roi rhaglenni ar waith.

Sut gellir gael mynediad at y gwasanaeth? A phwy y dylid cysylltu?

Gwneir atgyfeiriadau drwy ysgol eich plentyn mewn trafodaaeth a'r pennaeth neu'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynydd ADY).

Gellir trafod pryderon ychwanegol a'r canlynol:
Lyndsay Jenkins - Athrawes Arbenigol, Anawsterau Dysgu Cymhleth a PhenodolE-bost: lyndsay.jenkins@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith