Toglo gwelededd dewislen symudol

Ceffylau strae ac anifeiliaid strae eraill

Weithiau mae ein wardeiniaid anifeiliaid yn delio ag anifeiliaid strae eraill heblaw am gwn. Mae problem arbennig o ran ceffylau strae yn Abertawe.

Yn dibynnu ar ble y maent yn crwydro, bydd yr anifeiliaid hyn yn cael eu corlannu a'u cadw am rhwng 2 a 14 diwrnod, a gallant gael eu hailgartrefu ar ôl y cyfnod hwn.

Os bydd anifail crwydr yn cael ei gorlannu, rhaid talu ffi rhyddhau (gan gynnwys unrhyw gostau milfeddygol) i'r cyngor. Ni fydd yr anifail yn cael ei ryddhau a'i ddychwelyd i'w berchennog nes i'r ffioedd gael eu talu'n llawn. Nid oes darpariaeth ar gyfer talu fesul rhandal.

Yn achos ceffylau crwydr, rhaid cyflwyno pasport ceffyl dilys wrth dalu.

Dylid talu yn Canolfan Cyswllt, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth. 

Ffïoedd ar gyfer anifeiliaid crwydr
AnifailTâl am ryddhau yr un diwrnod â chorlannuTâl am bob diwrnod / rhan o ddiwrnod ychwanegol
Ceffyl/buwch£235.00£75.00
Dafad£275.00 - cyfnod dal 21 diwrnod a gorchymyn gofyniad i symud 
Goat£275.00 - cyfnod dal 21 diwrnod a gorchymyn gofyniad i symud 

Gellir rhoi'r anifeiliaid yn ôl i'w perchnogion trwy drefnu gyda'r wardeiniaid anifeiliaid yn unig, yn ystod oriau swyddfa (8.30am - 5.00pm, Dydd Llun-Dydd Iau, 8.30am - 4.30pm, Dydd Gwener).

Costau'n gywir ar 1 Ebrill 2024.

Cwestiynau cyffredin am geffylau crwydr

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am geffylau crwydr.
Close Dewis iaith