Cynllun Lles Lleol Drafft: cyfle i ddweud eich dweud
Bob 5 mlynedd, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'n datblygu Cynllun Lles Lleol. Mae'r cynllun hwn yn nodi'r amcanion a'r camau a ddefnyddir i arwain ein camau gweithredu bob blwyddyn.
Os oes arnoch angen yr ymgynghoriad hwn mewn fformat arall e.e. Print bras, cysylltwch â BGCabertawe@abertawe.gov.uk
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'n bartneriaeth lle mae'r sectorau cyhoeddus a phreifat a'r trydydd sector yn gweithio gyda'i gilydd i wella ansawdd bywyd yn Abertawe ar gyfer cenedlaethau presennol a rhai'r dyfodol.
Bob 5 mlynedd, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe'n datblygu Cynllun Lles Lleol. Mae'r cynllun hwn yn nodi'r amcanion a'r camau a ddefnyddir i arwain ein camau gweithredu bob blwyddyn.
Yn 2018, i ganolbwyntio ar y tymor hir, edrychom ar sut y gallai sefydliadau weithio'n well gyda'i gilydd i wella lles mewn cenhedlaeth erbyn 2040. Edrychodd Asesiad Lles Lleol 2022 ar yr holl ymchwil a'r hyn yr oedd pobl leol yn ei feddwl am wella lles ar gyfer y tymor hwy. Gallwch ddarllen am y gwaith yma www.abertawe.gov.uk/asesiadbgc2022
Er bod cymaint wedi newid o ganlyniad i'r pandemig, Brexit, y rhyfel yn Wcráin, gwir effeithiau newid yn yr hinsawdd, yr argyfwng natur a'r argyfwng costau byw, mae'n ymddangos bod ein hamcanion cyffredinol yn dal i grynhoi'r canlyniadau tymor hir sydd eu hangen.
Bydd parhau i gyflwyno ein hamcanion presennol ar gyfer 2040 yn ein galluogi i ganolbwyntio ar sut rydym yn mynd at i gyflwyno ein hamcanion a pha gamau y byddwn yn eu cymryd. Gallwch ddarllen y cynllun drafft yma:
Abertawe Cynllun Lles Lleol drafft (Word doc) [5MB]
Cynllun Lles Lleol - adnoddau (Word doc) [879KB]
Rydym wedi gwneud cynnydd da ond mae llawer i'w wneud o hyd. Gallwch ein helpu drwy gyfrannu at y cynllun a helpu i ychwanegu syniadau penodol ynghylch sut y gall Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe weithio gyda'i gilydd i wella lles Abertawe.
Cymerwch ychydig funudau i lenwi'r arolwg byr hwn
Dyddiad cau: 11.59pm, 13 Chwefror 2023
Mwy o wybodaeth
Cynllun Lles Lleol Drafft - testun plaen (Word doc) [116KB]
Cynllun Lles Lleol - adnoddau (Word doc) [879KB]
Cynllun Lles Lleol - templed cynhyrchu syniadau ar gyfer camau (Word doc) [18KB]