Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefnu blodau ar gyfer ddechreuwyr [Dydd Mawrth, 1-3pm]

Dim rhagor ar gael

Gyda Liz Gordon. Creu trefniadau blodau hardd. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr.

Mae'r cwrs dysgu cyfunol hwn gyda rhai sesiynau wyneb-i-wyneb a rhai sesiynau ar-lein, yn addas ar gyfer dechreuwyr. Bydd y sesiynau celf blodau yn canolbwyntio ar greu ystod o drefniadau blodau tymhorol a dyluniadau cyfoes, gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunydd ac adnoddau planhigion. Bydd sesiynau'n edrych ar ddyluniadau blodau a steilio yn ogystal â gofal blodau a phlanhigion cyffredinol.

Bydd y cwrs 10-wythnos yn cynnwys canllawiau hyfforddi ac aseiniadau dosbarth, gyda chyfle i ddysgwyr rannu canlyniadau eu gwaith caled a derbyn adborth ac arweiniad tiwtoriaid.

Bydd y cwrs yma'n cynnwys:

  • Sesiynau dan arweiniad tiwtor yn y dosbarth.
  • Bydd pynciau yn cael eu cefnogi gan aseiniadau dosbarth.
  • Arddangosiadau dosbarth o sgiliau a thechnegau.
  • Cyfleoedd ar gyfer trafodaeth ac adborth dosbarth.

Hyd: 10 wythnos. Yn cychwyn 25ain Ionawr, 2022.

Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.

Fformat dysgu: Wyneb i wyneb, gydag adnoddau ar-lein.

Côd y cwrs: A012271.LG.

Hazel Court

Sketty

Swansea

SA28BP

United Kingdom

Dim enghreifftiau o hyn