Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfieithydd Cymraeg (Cyfathrebu) (dyddiad cau: 03/12/21)

£25,481 - £28,672 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am gyfieithydd dawnus, profiadol sy'n awyddus i weld ei (g)waith yn helpu i wneud gwahaniaeth yn ddyddiol. Cyfnod Penodol nes 31 Mawrth 2023.

Teitl y swydd: Cyfieithydd Cymraeg (Cyfathrebu)
Rhif y swydd: RE.68995
Cyflog: £25,481 - £28,672 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Disgrifiad swydd Cyfieithydd Cymru (Cyfathrebu) (RE.68995) [856KB]  
Cyfarwyddiaeth/adran: Adnoddau

Gwnewch gais ar-lein nawr am swydd RE.68995

 

Dyddiad cau: 11.59pm, 3 Rhagfyr 2021

Mwy o wybodaeth

Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thîm cyfathrebu bach, cyfeillgar ac ymroddedig sy'n anelu at gysylltu â'r cyhoedd ar amrywiaeth o lwyfannau o gyfryngau traddodiadol i rai arloesol trwy'r cyfryngau cymdeithasol a fideos.

Y brif rôl yw cyfieithu deunyddiau ysgrifenedig gan gynnwys datganiadau i'r wasg, negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol ac isdeitlau fideo sy'n gywir, yn amserol ac yn ddiddorol. Byddwch yn gyfforddus wrth weithio mewn amgylchedd prysur, gan roi cymorth a chyngor i swyddogion ac aelodau'r Cabinet.