Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Y cyngor yn gweithio gydag ysgolion wrth i'r tymor ddechrau

Mae Cyngor Abertawe yn parhau i weithio gyda'i holl ysgolion i sicrhau bod disgyblion a staff mor ddiogel â phosib wrth iddynt ddychwelyd ar ôl gwyliau'r haf.

Swansea Council Logo (landscape)

Bydd gwaith glanhau ychwanegol yn parhau a bydd rhagofalon eraill yn aros ar waith ond bydd rhai newidiadau o'i gymharu â'r tymor diwethaf.

Ers 7 Awst mae Cymru wedi bod ar Lefel Rhybudd Sero sy'n golygu nad oes yn rhaid i gysylltiadau achosion a gadarnhawyd o COVID-19  hunanynysu os ydynt yn asymptomatig ac wedi cael dau frechiad neu os ydynt dan 18 oed.

Ond mae'n rhaid i bob disgybl ac aelod o staff sydd â symptomau neu sy'n profi'n bositif barhau i hunanynysu'n syth.

Mae newidiadau eraill a argymhellir gan Lywodraeth Cymru yn golygu, erbyn 20 Medi fan bellaf:

  • Na fydd yn ofynnol i fygydau gael eu gwisgo gan ddisgyblion mewn  ysgolion, ond mae'n ofynnol i ddisgyblion oed uwchradd eu gwisgo ar gludiant ysgol.
  • Ni fydd unrhyw ofyniad am swigod cyswllt mewn ysgolion
  • Ni fydd angen amserau cychwyn a gorffen cyfnodol

Mae pob ysgol yn ymdrin â'r newidiadau hyn a byddant yn cyfathrebu â  rhieni'n uniongyrchol ynghylch beth yw eu rheolau ac os neu pryd y byddant yn newid.

Mae Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Abertawe, Helen Morgan-Rees, wedi ysgrifennu at rieni i amlinellu'r sefyllfa ac egluro sut gallant chwarae eu rhan wrth helpu ysgolion i weithredu mewn ffordd mor normal â phosib wrth reoli risgiau'n ddiogel.

Meddai, "Rydym nawr yn gweithio gyda'n holl ysgolion a lleoliadau i alluogi ysgolion i weithredu ar sail 'busnes fel arfer' cyn belled ag y bo'n bosib, sicrhau'r deilliannau gorau i bob dysgwr drwy ystyried ei anghenion addysgol a'i  les wrth reoli risgiau parhaus COVID-19 mor ddiogel â phosib.

Trwy gydol y pandemig mae ein holl ysgolion wedi gweithio'n eithriadol o galed i wneud eu hadeiladau mor ddiogel â phosibl mewn amgylchiadau anodd a newidiol iawn.

Ar hyn o bryd mae gan Abertawe'r gyfradd uchaf o achosion cadarnhaol o'i chymharu ag unrhyw le arall yng Nghymru sy'n dangos nad yw COVID wedi diflannu.

Mae angen i ni i gyd chwarae ein rhan wrth helpu ysgolion i aros yn ddiogel a lleihau unrhyw aflonyddu.

Mae awyr iach yn bwysig yn y frwydr yn erbyn y firws, felly os ydych  chi allan yn cymdeithasu, ystyriwch gwrdd yn yr awyr agored os gallwch chi.

Parhewch i annog eich plant i olchi eu dwylo yn rheolaidd a chofiwch, er bod y rheolau wedi ymlacio, bod ganddyn nhw ddewis personol o hyd i wisgo gorchudd wyneb os ydyn nhw eisiau.

Mae brechu'n hynod bwysig ac mae sesiynau brechu galw heibio yn cael eu cynnal yn rheolaidd ym Mae Abertawe i unrhyw un dros 16 oed.

Fel bob amser, byddwn yn parhau i weithio gyda'n hysgolion i sicrhau eich bod chi a'ch plant yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch pan ddychwelwn i'r ysgol."

Close Dewis iaith