Toglo gwelededd dewislen symudol

Amcangyfrifon poblogaeth blynyddol ardal fach

Mae amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe'n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol (SYC).

Y data poblogaeth diweddaraf sydd ar gael ar gyfer Wardiau Etholiadol ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE) yn Abertawe yw amcangyfrifon canol blwyddyn 2022.  Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI) yn unedau adrodd ystadegol a ddatblygwyd gan y SYG gyda phoblogaeth o rhwng 1,000 a 3,000 o bobl.  Mae Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG) yn cael eu hadeiladu o grwpiau ACEHI cyfagos ac mae ganddynt boblogaeth o rhwng 5,000 a 15,000. 

Mae amcangyfrifon cryno o'r boblogaeth leol (2022) ar gael ar y dudalen hon.  Caiff data lefel ACEHI (PDF) [356KB], ACEHG (PDF) [724KB] a Wardiau (PDF) [339KB] ar gyfer ardaloedd yn Abertawe eu dangos ar sail y grwpiau cyfnod bywyd bras: plant (0-15), oedran gweithio (16-64) a phobl hŷn (65+).  Mae ffeil (Excel doc) [234KB] ychwanegol ar gael sy'n dangos data poblogaeth fesul blwyddyn oedran unigol ar gyfer ardaloedd bach yn Abertawe, i helpu gyda chyfrifiadau a dadansoddiadau.

Mae rhagor o wybodaeth am yr amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach ar gael ar wefan SYG (Yn agor ffenestr newydd).

Newidiodd ffiniau wardiau etholiadol ac ACE yn Abertawe yn 2022.  Newidiodd y ffiniau wardiau yn Abertawe yn dilyn yr adolygiad diweddaraf gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru a'r Etholiadau Llywodraeth Leol ar 5 Mai 2022.  Mae'r ddaearyddiaeth ystadegol yn amodol ar adolygiad ynghyd â chyhoeddi canlyniadau newydd y Cyfrifiad pob deng mlynedd.  Yn dilyn Cyfrifiad 2021, mae Abertawe wedi ennill dwy ACEHI ychwanegol net, ond mae ganddi un ACEHG yn llai.

Mae delweddau map ar y dudalen hon hefyd yn dangos lleoliad cyffredinol y 30 ACEHG (PDF) [4MB] a'r 32 Ward Etholiadol (PDF) [4MB] yn Abertawe.  Mae mapiau unigol o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach a Wardiau Abertawe hefyd ar gael yma.  Mae'r tudalennau hyn hefyd yn cynnwys manylion y newidiadau diweddar i'r ffin ym mhob achos.

Cyhoeddwyd amcangyfrifon poblogaeth awdurdodau lleol ar gyfer canol 2022, sydd wedi'u dwyn ymlaen o Gyfrifiad 2021, gan SYG ym mis Tachwedd 2023.  Mae'r amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach ar gyfer wardiau ac ACEau yn gyson â'r amcangyfrifon ar lefel awdurdodau lleol ar gyfer canol 2022.

Ystadegau lefel gymunedol

Daw'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf ar gyfer ardaloedd Cynghorau Cymuned a Thref o Gyfrifiad 2021.  Mae dadansoddiadau oedran ar gyfer y meysydd hyn ar gael (PDF) [335KB] ar gyfer y tri grŵp eang.  Mae mapiau unigol a gwybodaeth bellach am yr ardaloedd cymunedol yn Abertawe ar gael yma.

Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach yn Abertawe, cysylltwch â ni.


Mae'r defnydd o ddata'r Arolwg Ordnans yn y dogfennau ar y we-dudalen hon yn destun amodau a thelerau.

Close Dewis iaith