Ystadegau'r farchnad lafur
12 Mawrth 2024
Crynodeb diweddaraf nifer yr hawlwyr ac ystadegau diweithdra Dinas a Sir Abertawe yw:
Cyfanswm nifer yr hawlwyr* (8 Chwefror 2024): 5,175; Canran: 3.5%
Newid (fesul mis): +130 (+2.6%); (dros y flwyddyn): -150 (-2.8%).
Amcangyfrif diweithdra** (blwyddyn arolwg hyd at fis Medi 2023): 5,200; Canran: 4.2%
Newis (dros y flwyddyn): +1,000 (+23.8%). Cyfwng hyder 95% (blwyddyn hyd at Medi 2023): +/-1,500 (pobl); +/-1.2% (cyfradd).
Mae ein chwarterol diweddaraf bwletin Ystadegau'r Farchnad Lafur (PDF) [543KB] yn crynhoi'r data lleol a chenedlaethol sy'n cael eu rhyddhau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ym mis Ionawr 2024.
Mae tudalen 1 yn cynnwys crynodeb ystadegol o Farchnad Lafur Abertawe (ar gyfer cyfnod yr arolwg a ddaeth i ben ym mis Medi 2023) a data ar nifer yr hawlwyr sy'n ddi-waith ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, yr Ardal Teithio i'r Gwaith, yr ardaloedd etholaeth lleol a ffigurau cyfatebol ar gyfer Cymru a'r DU ar 14 Rhagfyr 2023, yn unol â data nifer yr hawlwyr wedi'i addasu'n dymhorol (Cymru a'r DU yn unig) ac ystadegau diweithdra cenedlaethol. Mae tudalen 2 y bwletin yn cynnwys data ar nifer yr hawlwyr ar gyfer o wardiau etholiadol Abertawe, wedi'u trefnu yn ôl eu cyfradd ddiweithdra (uchel i isel).
Mae'r ystadegau cenedlaethol diweddaraf ar gyfer amrywiaeth o newidynnau allweddol y farchnad lafur leol a'r economi ar gael ar wefan y SYG, gweler y dolenni isod:
- Marchnad Lafur y DU, gan gynnwys gweithgarwch economaidd a chyflogaeth, swyddi gwag, enillion
- Marchnad Lafur Ranbarthol - Cymru
- Chwyddiant pris defnyddwyr y DU
- Gwerthiannau manwerthu
- Cyfrifon cenedlaethol chwarterol, gan gynnwys Cynnyrch Domestig Gros.
Ceir mwy o ddata'r farchnad lafur leol a chenedlaethol ac economaidd yma Proffil Economaidd Abertawe. Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill ynghylch ystadegau'r farchnad lafur leol a'r economi, cysylltwch â ni.
Nodiadau
* Mae nifer yr hawlwyr yn cynnwys pobl sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), yn ogystal â hawlwyr Credyd Cynhwysol y mae angen iddynt geisio gwaith. Mae'r gyfradd hawlio wedi'i mynegi fel cyfran o'r boblogaeth oedran gweithio sy'n byw yma, a ddiffinnir fel yr holl bobl rhwng 16 a 64 oed. Ar hyn o bryd, caiff data nifer yr hawlwyr ei gyhoeddi ar sail y wardiau a oedd yn bodoli cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. Ar hyn o bryd, mae ystadegau nifer yr hawlwyr wedi'u dynodi'n 'ystadegau arbrofol' gan y SYG.
** Seilir amcangyfrifon diweithdra sy'n seiliedig ar fodel ar Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APB) a data nifer yr hawlwyr. Mae'r amcangyfrif yn berthnasol i'r cyfnod 12 mis cyn y dyddiad a roddir. Nifer y di-waith wedi'i rannu gan y boblogaeth sy'n weithgar yn economaidd 16 oed ac yn hŷn yw'r gyfradd hon.
Ffynhonnell Ddata: Nifer yr hawlwyr a'r Arolwg Poblogaeth Blynyddol, SYG/Nomis.