Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybr hanesyddol ar hyd camlas i groesawu rhagor o feicwyr a cherddwyr

Disgwylir i lwybr hanesyddol ar hyd camlas yn Abertawe sydd eisoes yn boblogaidd gyda cherddwyr a beicwyr gael ei adnewyddu.

cycling stock pic

Mae Cyngor Abertawe wedi sicrhau cyllid i uwchraddio darn 1.4km o lwybr halio ar hyd Camlas Tawe.

Mae'r llwybr rhwng Clydach a Phontardawe eisoes yn rhan o'r rhwydwaith beicio cenedlaethol (RhBC 43) ac mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio i gerdded a beicio. O ganlyniad i lystyfiant sydd wedi gordyfu ac arwyneb sy'n heneiddio dan draed mae'r cyngor wedi ceisio cyllid pellach i'w wneud yn fwy addas i'w ddefnyddwyr.

Mae buddsoddiad o chwarter miliwn o bunnoedd bellach wedi'i sicrhau drwy raglen Teithio Llesol Llywodraeth Cymru a bydd yn arwain at uwchraddiad mawr i'r llwybr.

Meddai Mark Thomas, Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, "Ein nod fydd ehangu'r llwybr presennol ar hyd y gamlas a darparu arwyneb gwell i gerddwyr a beicwyr.

"Byddwn yn gweithio gyda Glandŵr Cymru i wneud y llwybr hwn yn llwybr cerdded a beicio mwy diogel a hyd yn oed yn fwy poblogaidd. Rydym hefyd am barhau â'r gwelliannau sydd eisoes wedi'u cwblhau gan yr awdurdod lleol cyfagos ar hyd eu hadran, gan gysylltu â hi a sicrhau'r buddion rhanbarthol mwyaf posib."

Mae'r cyllid diweddaraf wedi'i gynnwys mewn adroddiad i Gabinet y Cyngor, sy'n argymell cymeradwyo'r cynllun ynghyd â buddsoddiad pellach mewn isadeiledd cerdded a beicio, gwerth cyfanswm o £696,000.

Bydd rhan o'r cyllid (£245,000) hefyd yn helpu i greu cyswllt 1.4 km newydd rhwng cymunedau Clydach a Chraig-cefn-parc.

Bydd buddsoddiad ychwanegol yn cael ei wario ar gyflwyno gwaith celf a gynhyrchir yn lleol ar hyd rhannau presennol o rwydwaith y ddinas.

 Ychwanegodd y Cyng. Thomas, "Rydym yn hynod ddiolchgar am y cymorth gan Lywodraeth Cymru i'n galluogi i ehangu a gwella ein hisadeiledd cerdded a beicio presennol.

"Rydyn ni am i fwy o bobl ystyried yr opsiynau o gerdded a beicio i deithio o amgylch Abertawe a defnyddio car yn llai aml. Mae sicrhau bod gennym lwybrau o ansawdd da sy'n cysylltu cymunedau ac yn rhoi hyder i bobl deithio'n ddiogel yn allweddol i gyflawni hyn."

Meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, sy'n gyfrifol am drafnidiaeth, "Rydyn ni'n gwybod bod cael pobl i gerdded neu feicio ar gyfer siwrneiau byr yn hytrach na gyrru yn uchelgeisiol, ond os ydyn ni am gyrraedd ein targed allyriadau sero carbon net erbyn 2050, mae angen i ni weithredu nawr.

"Mae cael yr isadeiledd cywir yn ei le yn allweddol i annog mwy o bobl i deimlo'n ddiogel wrth gerdded a beicio a dyna pam rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi cyllid sylweddol mewn teithio llesol eleni."

Close Dewis iaith