Gwledd y Gaeaf ar y Glannau
Ni fyddai Nadolig yn Abertawe'n gyflawn heb daith i Wledd y Gaeaf ar y Glannau rhwng 15 Tachwedd 2023 i 2 Ionawr 2024!


Ac, os yw hyn i gyd yn gwneud i chi deimlo chwant bwyd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ymweld â'r Pentref Alpaidd i gael ffefrynnau'r ŵyl gan gynnwys selsig Almaenig, gwin y gaeaf cynnes neu hyd yn oed malws melys wedi'u tostio. Eisteddwch a mwynhewch awyrgylch y Pentref Alpaidd gyda'ch ffrindiau a'ch teulu.
Bydd y llyn iâ yn ôl a dan do - felly gallwch fynd ar yr iâ ym mhob tywydd! Gwisgwch eich esgidiau sglefrio a mwynhewch y teimlad Nadoligaidd wrth i chi sglefrio o gwmpas wrth wrando ar gerddoriaeth Nadoligaidd ac edmygu'r goleuadau'n pefrio.
Mwy o wybodaeth a prynu tocynnau sglefrio iâ (Yn agor ffenestr newydd)