Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau

Ni fyddai Nadolig yn Abertawe'n gyflawn heb daith i Wledd y Gaeaf ar y Glannau rhwng 12 Tachwedd 2021 a 3 Ionawr 2022!

Waterfront Winterland

Waterfront WinterlandBydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau'n cael ei thrawsnewid ar gyfer cyfnod yr ŵyl 2021 gyda hoff atyniadau pawb - gan gynnwys Pentref Alpaidd newydd a gwell, mwy o atyniadau ffair a llwybr iâ newydd sbon (gyda sesiynau sglefrio 2 am bris 1 tan 16 Rhagfyr!)

Bydd hoff Bentref Alpaidd pawb yn dychwelyd eleni hefyd, gyda ardal fwy i fwynhau bwyd a diod Nadoligaidd, cymdeithasu a mwynhau'r awyrgylch.

Dyma rai pethau y gall ymwelwyr eu mwynhau yn y Bar Alpaidd: y ffordd berffaith i gymdeithasu gyda'ch teulu a'ch ffrindiau mewn ardal glyd - yn ddelfrydol ar gyfer y nosweithiau oer gaeafol! Cewch weld Abertawe o'r awyr gyda'n Holwyn Arsylwi 33m medr o uchder - y ffordd orau o weld golygfeydd hudolus y ddinas. Dewch i fwynhau'n hatyniadau ffair newydd, sy'n sicr o'ch gwefreiddio!

Bydd sglefrio iâ yn dychwelyd i Wledd y Gaeaf ar y Glannau eleni gyda'r llyn sglefrio iâ hynod boblogaidd a'r llwybr iâ newydd sbon sy'n ystumio o gwmpas y coed, newydd sbon ar gyfer 2021! A gall sglefrwyr ddefnyddio'r ddau yn ystod eu sesiynau sglefrio!

Mwy o wybodaeth a prynu tocynnau sglefrio iâ