Toglo gwelededd dewislen symudol

Swyddi Gwasanaethau Cymdeithasol

Swyddi a gyrfaoedd sy'n werth eu gwneud sy'n wirioneddol bwysig ac sy'n rhoi cyfle i chi wneud gwahaniaeth i fywydau pobl o bob oed ledled Abertawe.

Old man and young children image

Yng Nghyngor Abertawe rydym yn falch o'n gweithlugwasanaethau cymdeithasol a phopeth y maent yn ei wneud ac mae ein cynnig yn cynnwys cyfleoedd i weithio'n hyblyg, cynllun pensiwn, hyfforddiant a llawer mwy.

Gallai eich profiadau bywyd a'ch angerdd i ofalu am bobl a'u helpu i gael y bywyd gorau posib eich helpu i ddod o hyd i swydd nawr.

Yr hyn sy'n bwysig i ni fel gwasanaeth gofalgar a chefnogol yw eich agwedd a faint rydych chi am ofalu ac yn gyfnewid am hynny, byddwn ni'n gofalu amdanoch chi a'ch gyrfa.

Gweler yr hysbysebion rôl isod i weld beth sydd ar gael. Mae gan bob un fanylion cyswllt rhywun y gallwch chi ei e-bostio neu ei ffonio i ddarganfod mwy.


Maethu

Os hoffech wybod mwy am faethu yn Abertawe, siaradwch â ni - ni yw Maethu Cymru Abertawe.

Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol

O £12.00 yr awr. Cyflogir Cynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol i gefnogi unigolyn i fyw mor annibynnol â phosib. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael yn ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oed (gan gynnwys plant ac oedolion), cefndir a gallu.

Cynorthwyydd Gofal Cymunedol (dyddiad cau: 29/04/24)

£25,979- £28,770 y flwyddyn pro rata. Mae ein Cynorthwywyr Gofal Cymunedol yn darparu gofal a chefnogaeth i helpu pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, byw'n dda, adennill annibyniaeth a/neu aros yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac yn eu cymuned.

Cynorthwyydd Gofal Cymunedol (dyddiad cau: 29/04/24)

£25,979- £28,770 y flwyddyn pro rata. Mae ein Cynorthwywyr Gofal Cymunedol yn darparu gofal a chefnogaeth i helpu pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, byw'n dda, adennill annibyniaeth a/neu aros yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac yn eu cymuned.

Uwch-ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (dyddiad cau: 23/04/24)

£43,421 - £45,441 y flwyddyn. Mae gennym gyfle cyffrous i Uwch Weithiwr Cymdeithasol ymuno â'r Academi (Absenoldeb Mamolaeth

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 24/4/24)

Gradd 8, £35,411 y flwyddyn (newydd gymhwyso), Gradd 9 £36,298 - £40'478 y flwyddyn (cymwysedig). Yn Abertawe credwn mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir a'r amgylchedd gwaith cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Uwch-ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (dyddiad cau: 29/04/24)

£43,421 - £45,441 y flwyddyn. Yn Abertawe, rydym yn credu mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf, a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ac amgylchedd gweithio cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Hyfforddwr Gweithgareddau Awyr-agored (dyddiad cau: 02/07/24)

£25,979 y flwyddyn (pro-rata). Dyma gyfle unigryw, fydd yn ddelfrydol ar gyfer gweithiwr ieuenctid neu hamdden profiadol a hoffai symud i weithio gyda gweithgareddau anturus; byddai'r rôl hon hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr gweithgareddau awyr-agored profiadol sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau ym maes gweithgareddau awyr-agored addysgol a therapiwtig.

Swyddog Clerigol Tîm (dyddiad cau: 23/04/24)

£24,294 - £25,119 y flwyddyn (pro-rata). Mae hon yn swydd ran amser 20 awr ac mae hwn yn gytundeb dros dro tan 31 Mawrth 2026.

Swyddog Gofal Preswyl i Blant (dyddiad cau: 30/04/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae ein cartrefi preswyl yn darparu cymorth, arweiniad a gofal i blant a phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed. Gall ein plant a'n pobl ifanc wynebu anawsterau ymddygiadol ac emosiynol a allai effeithio ar eu lles a'u diogelwch.

Rheolwr Cofrestredig (dyddiad cau: 30/04/24)

£43,421 - £47,420 y flwyddyn. Mae hwn yn ddatblygiad newydd cyffrous yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd er mwyn symud ymlaen â datblygiad ein cynnig gwasanaethau preswyl mewnol.  Rydym yn awyddus i recriwtio i swydd Rheolwr Cofrestredig ar gyfer Cartrefi Gofal Plant. Bydd y swydd yn llawn amser ac yn barhaol.

Swyddog Cyllid (dyddiad cau: 01/05/24)

£25,979 - £28,770 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â'r Tîm Cyllid/Comisiynu i weithio fel Swyddog Cyllid llawn-amser, dros dro o fewn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae cyllid wedi'i sicrhau yn y lle cyntaf tan 31 Mawrth 2025.
Close Dewis iaith