Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dysgu Teulu Ar-Lein

Ni restrir enghreifftiau ar gyfer y digwyddiad hwn ar hyn o bryd

Gyda Karen Ward. Helpwch eich plentyn gyda'i ddysgu.

Dyluniwyd ein hystafell ddosbarth Dysgu Teulu ar-lein i helpu rhieni / gwarcheidwaid i helpu'u phlant gyda'u dysgu. Bydd y gweithgareddau a bostir yn hwyl, yn rhyngweithiol ac yn handdenol, ac yn adeiladu ar strategaethau a gwybodaeth rhieni / gwarcheidwaid wrth gefnogi dysgu eu phlant. Byddant darparu cyfle delfydol i rieni / gwarcheidwaid wella eu sgiliau dysgu eu hunain, cydnabod sut y gallant gefnogi dysgu eu phlant orau a chwrdd â rhieni / gwarcheidwaid a gofalwr eraill ar-lein. Byddwn yn rhannu pynciau a themâu yn rheolaidd, sy'n cael sylw mewn ysgolion cynradd yn y blynyddoedd cynnar. Gobeithio y bydd y wybodaeth yn eich helpu chi i gael gwell dealltwriaeth o sut mae'ch plentyn yn dysgu ac yn cynnig syniadau a gweithgareddau hwyliog a awgrymit i chi roi cynnig arnyn nhw gyda'ch gilydd. Bydd y gweithgareddau'n ymdrîn â phynciau llythrenned, rhifedd a llythrennedd digidol a byddant yn helpu i gefnogi a datblygu sgiliau plant yn y meysydd hyn.

Gobeithiwn y byddwch chi'n mwynhau'r gweithgareddau sy'n addas ar gyfer oedran Gynradd - Blynyddoedd Cynnar (agwedd Sylfaenol).

Fformat dysgu: Ar-lein. Mae sylwadau rhyngweithiol ac adborth ar gael yn y Stream (Google Classroom). Dydd ac amser sesiynau fyw i'w gael ei gadarnhau.

Yn dechrau: Ionawr, 2022.

Amserau eraill

Dim enghreifftiau o hyn