Toglo gwelededd dewislen symudol

Miloedd yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf

Mae miloedd o deuluoedd y ddinas yn gymwys i gael taliad untro o £100 o'r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf dan gynlluniau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Llun).

swansea from the air1

Amcangyfrifir y bydd tua 30,000 o aelwydydd yn Abertawe yn gallu hawlio'r taliad i helpu i ddelio â chost gynyddol nwy a thrydan ar y grid y gaeaf hwn.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe, y gall y rheini sy'n talu biliau wneud ceisiadau am y taliad nawr ar wefan y cyngor a byddai'r rheini sy'n gymwys i gael y grant yn cael eu talu cyn gynted â phosib.

Meddai, "Rydyn ni i gyd yn gwybod mai'r gaeaf yw'r amser anoddaf ar gyfer biliau tanwydd ac eleni mae'r her wedi bod hyd yn oed yn fwy i deuluoedd gweithgar sy'n ei chael hi'n anodd, oherwydd y cynnydd cyffredinol yng nghost tanwydd.

"Dyna pam rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu talu cyn gynted â phosib."

O dan y cynllun, ystyrir bod aelwyd yn gymwys os oes gan yr unigolyn sy'n gorfod talu am y tanwydd ar y grid ar gyfer ei gartref, neu ei bartner, hawl i Gymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Credyd Cynhwysol, Credydau Treth Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm ar unrhyw adeg rhwng 1 Rhagfyr 2021 a 31 Ionawr 2022.

Mae'r ffurflen gais ar-lein ar gael ar wefan y cyngor yn www.abertawe.gov.uk/CymorthTanwyddGaeaf

Mae unrhyw un sy'n gymwys i wneud cais am Daliad Cymorth Tanwydd Gaeaf, p'un a anfonir gwahoddiad iddo hawlio'r taliad ai peidio, yn gallu'i ddefnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth am y Taliad Cymorth Tanwydd Gaeaf, gan gynnwys cwestiynau cyffredin, ar gael yma:www.abertawe.gov.uk/CymorthTanwyddGaeaf

 

Close Dewis iaith