Toglo gwelededd dewislen symudol

Panto Grand Abertawe i gau ar 24 Rhagfyr

Bydd pantomeim eleni yn Theatr y Grand Abertawe'n cau yn dilyn ei berfformiadau ar 24 Rhagfyr.

Grand Theatre

Grand Theatre

Bydd yn helpu'r lleoliad i barhau i chwarae ei ran i helpu'r ddinas a Chymru drwy'r pandemig.

 

Un o'r rheoliadau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw(sylwer: 22 Rhag)oedd cyfyngu ar nifer y bobl sy'n mynd i leoliadau dan do.

 

Oherwydd hyn, byddai'n amhosib parhau i gynnal sioe Snow White o Ŵyl San Steffan ymlaen.

 

Cyngor Abertawe sy'n rhedeg y theatr, a gwnaed y penderfyniad hwn ar y cyd â chynhyrchwyr Crossroads Pantomimes.

 

Bydd cwsmeriaid a chanddynt docynnau ar gyfer perfformiadau ar ôl 24 Rhagfyr yn cael ad-daliad.

 

Meddai Aelod y Cabinet Robert Francis-Davies, "Doedd dim dewis arall heblaw cau Snow White.

 

"Er gwaethaf gwaith caled pawb sy'n rhan o'r sioe, mae'n anymarferol parhau ar ôl 24 Rhagfyr.

 

"Hoffem ddiolch i bawb am eu hymdrechion i helpu i gynnal diogelwch yn y theatr yn ystod y perfformiadau - a diolchwn i bawb sydd wedi prynu tocynnau ar gyfer sioeau ar ôl Noswyl Nadolig.

 

"Gwyddwn y bydd y cyhoedd yn deall mai dyma'r penderfyniad gorau ar gyfer y cynhyrchwyr ac iechyd y gymuned."

 

 

Close Dewis iaith