
Deall eich llythyr hysbysu Gostyngiad Treth y Cyngor.
Bob tro y caiff eich Gostyngiad Treth y Cyngor ei gyfrifo, anfonir Hysbysiad Penderfyniad Gostyngiad Treth y Cyngor atoch gyda llythyr Datganiad o'r Rhesymau ynghlwm.
Bydd y
Datganiad o'r Rhesymau (PDF, 172KB)Yn agor mewn ffenest newydd rhoi manylion y symiau sydd wedi'u defnyddio wrth gyfrifo'ch Gostyngiad Treth y Cyngor, esboniad fesul cam o sut cafodd y gostyngiad ei gyfrifo a'r cyfnod y mae'r gostyngiad yn berthnasol iddo.
Mae'r
Hysbysiad Penderfyniad Gostyngiad Treth y Cyngor (PDF, 157KB)Yn agor mewn ffenest newydd ar y dudalen flaen yn grynodeb o'r cyfrifiad gyda manylion am
- Y rheswm y cyfrifwyd y Gostyngiad Treth y Cyngor.
- Swm y Gostyngiad Treth y Cyngor y mae gennych hawl iddo a'r cyfnod y mae'n berthnasol amdano.
Mae'r Hysbysiad Penderfyniad Gostyngiad Treth y Cyngor yn cynnwys llawer o wybodaeth y mae'n ofynnol i ni ei chynnwys yn ôl deddfwriaeth.
Mae
tudalen gefn y llythyr (PDF, 473KB)Yn agor mewn ffenest newydd yn rhoi crynodeb o'r broses Gostyngiad Treth y Cyngor a gwybodaeth am yr hyn i'w wneud os:
- ydych yn meddwl ein bod wedi cyfrifo'ch Gostyngiad Treth y Cyngor yn anghywir.
- yw'ch amgylchiadau'n wahanol i'r hyn a ddangoswyd ar yr Hysbysiad Penderfyniad Gostyngiad Treth y Cyngor,
Yn dilyn cyfarwyddiadau'r Llywodraeth yn ddiweddar, mae llinellau ffôn ar gau dros dro. E-bostiwch eich ymholiad at budd-daliadau@abertawe.gov.uk a byddwn yn ceisio eich ateb cyn gynted ag y bo modd. Rydym yn ymdrin â nifer mawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly byddwch yn amyneddgar gyda ni.