Caligraffeg - Tymor 3: Priflythrennau addurnol ac amrywiadau offer - gallu cymysg [Nos Fercher, 7-8pm]
Gyda Judith Porch. Yn ystod y tymor hwn byddwn yn cwblhau ein hatudiaeth o'r arddull Gothig.
Mae'r cwrs hwn yn £10 y tymor. Arôl clicio "cyflwyno", a wnewch gwirio eich manylion archebu ac yna wasgwch botwm "archebwch nawr". Byddwch yn derbyn e-bost awtomataidd gyda ddolen ddiogel i gwblhau eich daliad.
Gallwch ddewis dilyn y llwybr traddodiadol drwy greu priflythyren gothig gan ddefnyddio felwm wedi'i estyn, haenau aur a gesso neu gallwch ddatblygu darn modern gan ddefnyddio amrywiaeth o offer fel brwshys ymyl gwastad, pinnau awtomatig mawr ac amrywiath o gefndiroedd. Eich dewis chi ydyw. Efallai gallech ddefnyddio haenau aur mewn ffordd gyfoes.
Mae digon o ysbrydoliaeth ac opsiynau ar gael i chi.
Efallai y byddwch yn darganfod brwdfrydedd am weadau gothig cyfoes neu efallai y byddwch yn sylweddoli bod yr amser arbennig y byddwch yn ei dreulio, dim ond ar eich cyfer chi, i greu darn addurniadol hynod addurnol, yn rhoi ymdeimlad enfawr o gyflawniad i chi.
Gofalwch - mae caligraffeg yn gaethiwus ac yn llawer o hwyl.
Byddwch yn dysgu:
- Sut i ddefnyddio felwm
- Sut i ddefnyddio haenau aur neu baentiau Finetec ar gyfer effaith addurnol
- Sut i greu priflythyren gothig
- Sut i ddefnyddio amrywiaeth o offer i greu darn cyfoes.
Yr hyn y byddwch yn ei greu:
- Tudalen lawysgrif neu banel bach
- Llawysgrifen gothig wedi'i lunio mewn ffordd gyfoes, yn seiliedig ar eich artist dewisol
- Llythyren gothig gan ddefnyddio technegau a deunyddiau traddodiadol
- Panel cyfryngau cymysg cyfoes.
Yr hyn y bydd arnoch ei angen:
- Eich offer caligraffeg arferol
- Mynediad at lyfrau neu'r rhyngrwyd at ddiben ymchwil
- Papur dyfrlliw wedi'i wasgu'n boeth neu, os byddai'n well gennych, rhowch gynnig ar ddarn o felwm traddodiadol (croen llo) sydd ar gael gan eich tiwtor
- Paentiau Finestec neu haenau aur - ar gael ar-lein neu gan eich Tiwtor
- Brwyshys paent a phaent.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Fideos 'sut i' cynhwysfawr
- Dogfennau ac adnoddau ar-lein / y gellir eu hargraffu
- Sesiynau byw a fydd yn cynnwys arddangosiadau gan y tiwtor
- Sesiynau wyneb yn wyneb ddwywaith y tymor i drafod cynnydd a datrys problemau. (Wythnos 4 ac 8, sesiwn 20 munud i'w chadarnhau gyda'ch tiwtor ar gyfer nos Fercher, rhwng 7pm a 9pm ym Mhafiliwn Parc Victoria).
Fformat dysgu: Dysgu cyfunol, ar-lein yn bennaf.
Côd y cwrs: A042255.JPO