Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithdy ar-lein TG ar gyfer Rhai sy'n Gwella [Dydd Mercher, 5.30pm-7.30pm] - DL042427.AH

Dydd Mercher 5 Mehefin 2024
Amser dechrau 17:30
19:30

Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.

Hyd - 10 wythnos 

Bydd y gweithdy ar-lein hwn yn darparu cyfleoedd dysgu grŵp, yn seiliedig ar ddetholiad o bynciau a phroblemau TG a ddewisir o fewn y grŵp. Disgwylir i fyfyrwyr ymarfer yr hyn y maent wedi'i ddysgu rhwng sesiynau ac weithiau gellir gosod tasgau iddynt i gynorthwyo eu dysgu.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Gweithredu a chynnal cyfrifiaduron.
  • Diogelwch Rhyngrwyd a PC.
  • Defnyddio pecynnau Microsoft Office.
  • Pori a chwilio'r Rhyngrwyd.
  • Cadw tŷ PC, rheoli ffeiliau a ffolderi.
  • Sefydlu a defnyddio cyfrifon e-bost.
  • Gwahanol fathau o ddogfennau a fformatau ffeil (er enghraifft, PDF, DOC, TRF).

Gellir nodi anghenion dysgu y cytunwyd arnynt mewn grwpiau yn ystod y gweithdai ar-lein a rhoddir sylw i'r rhain, lle bo hynny'n bosibl, yn ystod y sesiynau.

Mae'r gweithdy hwn yn cael ei redeg fel gweithdy ar-lein. Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: Ar-lein.

Côd y cwrs: DL042427.AH

Amserau eraill ar Dydd Mercher 5 Mehefin

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith