Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefnu blodau ar gyfer ddechreuwyr [Dydd Mawrth, 3.00pm-5.00pm] - EN042471.LG

Dydd Mawrth 23 Ebrill 2024
Amser dechrau 15:00
17:00

Hyd - 10 wythnos 

Mae trefnu blodau a deunyddiau planhigion yn weithgaredd hwyl, creadigol a therapiwtig sy'n gallu rhoi llawer o foddhad ac mae'n gallu gwella ein lles.

Drwy gydol y flwyddyn mae natur yn darparu deunyddiau planhigion hyfryd ar gyfer trefnu blodau sydd ar gael yn rhwydd mewn gerddi a gwrychoedd. Bydd dysgwyr yn dygu sut i ddefnyddio deunyddiau planhigion tymhorol i greu dyluniadau blodau ar gyfer y cartref ac ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron arbennig.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r technegau sylfaenol i chi greu dyluniadau cyfoes a thraddodiadol. Gan symud tuag at leihau'r ddibyniaeth ar sbwng blodau, caiff technegau traddodiadol a blaengar eu defnyddio i greu rhai trefniadau heb ddefnyddio sbwng blodau.

Mae gweithio gyda phobl eraill mewn lleoliad ystafell ddosbarth yn darparu cyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddylfryd o gefndiroedd amrywiol y gallwch rannu syniadau a thrafod atebion ar gyfer dyluniadau a chanlyniadau â nhw.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Gwybodaeth am ddeunyddiau planhigion
  • Sgiliau ymdrin â deunyddiau planhigion a gofalu amdanynt
  • Arddulliau a thechnegau dylunio
  • Cyfleoedd i fod yn greadigol
  • Gweithgareddau ymarferol

Bydd dysgwyr yn derbyn y canlynol:

  • Dysgu wyneb yn wyneb
  • Arddangosiadau sgiliau dylunio
  • Arweiniad ac adborth gan diwtoriaid

Taflenni arweiniad ar-lein (Google classroom).

Fformat dysgu: Wyneb i wyneb, gydag adnoddau ar-lein.

Côd y cwrs: EN042471.LG

Cwrt Hazel

Sgeti

Abertawe

SA2 8BP

United Kingdom

Amserau eraill ar Dydd Mawrth 23 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith