Blodeuwriaeth ar gyfer Waith [Dydd Mawrth, 6.30-8.30pm]
Gydag Elizabeth Gordon.
Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.
Hyd - 10 wythnos yn cychwyn 26 Ebrill 2022
Mae blodeuwriaeth yn broffesiwn crefftus ac mae'r cwrs hwn yn ymdrin â gwaith gwerthwr blodau mewn amgylchedd siop flodau. Mae'r cwrs hwn yn ystyried dyluniadau blodau a steilio yn ogystal â gofal blodau a phlanhigion cyffredinol. Bydd y sesiynau hyn yn yr ystafell ddosbarth yn eich helpu i ennill rhai sgiliau a thechnegau hanfodol sy'n ofynnol i ddod yn werthwr blodau.
Bydd y cwrs 10-wythnos hwn yn cynnwys canllawiau hyfforddi ac aseiniadau dosbarth gan gynnwys sesiynau dan arweiniad athrawon. Mae achrediad Agored Cymru wedi'i gynnwys yn y cwrs.
Bydd y cwrs yma'n cynnwys:
- Sesiynau dan arweiniad tiwtor yn y dosbarth.
- Arddangosiadau dosbarth o sgiliau a thechnegau.
- Bydd pynciau yn cael eu cefnogi gan aseiniadau dosbarth.
- Cyfleoedd ar gyfer trafodaeth ac adborth dosbarth.
- Adnoddau printiedig.
- Achrediad yn seiliedig ar aseiniadau wedi'u cwblhau.
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb, gydag adnoddau ar-lein.
Côd y cwrs: A042273.LG