Toglo gwelededd dewislen symudol

Lefel 1 - Sgiliau TG ar gyfer Gwaith a Bywyd [Dydd Mercher, 10.00am-12.00pm] - DL042431.GP

Dydd Mercher 24 Ebrill 2024
Amser dechrau 10:00
12:00

Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.

Hyd - 30 wythnos (10 wythnos ar ôl). 

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys tri thymor dysgu, gyda'r nôd o ddarparu sgiliau ac unedau achrededig i chi ar Lefel 1 Agored Cymru.

Enillwch y sgiliau TGCh i weithredu a symud ymlaen mewn gwaith, addysg a bywyd bob dydd, gan ddefnyddio Technoleg Ddigidol er eich budd chi. Defnyddiwch gymwysiadau meddalwedd prosesu geiriau ac archwiliwch yr offer i olygu a fformatio dogfennau. Dylunio, paratoi a darparu cyflwyniadau digidol ac ennill y sgiliau a'r technegau i ddefnyddio taenlenni yn llwyddiannus. Dysgu rheoli ffeiliau, gan gynnwys arbed, sicrhau a rhannu dogfennau, fel un o'r sgiliau allweddol a drafodir yn ystod y cwrs hwn.

Bydd y cwrs 30 wythnos hwn, a gyflwynir dros dri thymor 10 wythnos, yn eich helpu i wella'ch cynhyrchiant gan ddefnyddio pecynnau meddalwedd TGCh a swyddfa. Bydd yn eich helpu i ddeall manteision defnyddio prosesu geiriau, cyflwyniadau a thaenlenni, yn ogystal â darparu'r sgiliau a'r achrediadau cydnabyddedig i chi i'w defnyddio'n effeithiol.

Ymhlith y sgiliau a addysgir mae:

  • Creu, golygu a fformatio dogfennau wedi'u prosesu â geiriau.
  • Creu cyflwyniadau digidol.
  • Cynhyrchu a defnyddio taenlenni yn effeithiol.
  • Rhoeli ffeiliau.

Bydd yr unedau Agored Cymru dan sylw yn cynnwys:

  • CQ11CY083 Technegau Prosesu Geiriau.
  • CP11CY018 Creu Cyflwyniadau Digidol.
  • CP31CY016 Technegau Taenlen.

Mae pob un o'r unedau uchod werth tri chredyd, naw i gyd, y gellir eu defnyddio i ffurfio rhan o un neu fwy o gymwysterau Agored Cymru rheoledig.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Sesiynau dosbarth, dan arweiniad tiwtor.
  • Taflenni a thaflenni canllaw ar gael i lawrllwytho ac argraffu.
  • Gwaith prosiect ar gyfer achredu.

Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.

Fformat dysgu: Wyneb-i-wyneb.

Côd y cwrs: DL042431.GP

Yr ARC Cymunedau am Waith

45 Broughton Avenue

Portmead

Abertawe

SA5 5JS

United Kingdom

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Mercher 24 Ebrill

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith