Trefnu blodau lefel uwch [Dydd Mercher, 1-3pm]
Gyda Liz Gordon. Dysgu sgiliau sy'n fwy datblygedig a'r technegau sy'n ofynnol i greu dyluniadau blodau arloesol.
Sylwch mae'r cwrs hwn yn rhedeg 10 wythnos o'r dyddiau dechrau. Byddwch yn ymuno â'r cwrs yn hwyr os wnewch chi gofrestru arôl y dyddiad hon. Croeso i ddysgwyr newydd os mae lefydd dal ar gael i fwcio arnynt.
Hyd - 10 wythnos yn cychwyn 27 Ebrill 2022
Mae'r cwrs hwn ar gyfer y trefnydd blodau mwy profiadol a bydd yn canolbwyntio ar greu ystod o ddyluniadau cyfoes gan ddefnyddio amrywiaeth o ddeunydd ac adnoddau planhigion. Mae'r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr sydd â phrofiad o drefnu blodau neu sydd eisoes wedi mynychu ein cyrsiau Trefnu Blodau ac eisiau'r her o greu arddangosfeydd sy'n fwy datblygedig. Bydd sesiynau'n edrych ar ddyluniadau blodau a steilio yn ogystal â gofal blodau a phlanhigion cyffredinol.
Bydd y cwrs yma'n cynnwys:
- Sesiynau dan arweiniad tiwtor yn y dosbarth.
- Bydd pynciau yn cael eu cefnogi gan aseiniadau dosbarth.
- Arddangosiadau dosbarth o sgiliau a thechnegau.
- Cyfleoedd ar gyfer trafodaeth ac adborth dosbarth.
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb, gydag adnoddau ar-lein.
Côd y cwrs: A042284.LG