Trefnu blodau lefel uwch [Dydd Mercher, 1.00pm-3.00pm] - EN042483.LG
Hyd - 10 wythnos
Mae trefnu blodau a deunyddiau planhigion yn weithgaredd hwyl, creadigol a therapiwtig sy'n gallu rhoi llawer o foddhad ac mae'n gallu gwella ein lles.
Drwy gydol y flwyddyn mae natur yn darparu deunyddiau planhigion hyfryd ar gyfer trefnu blodau sydd ar gael yn rhwydd mewn gerddi a gwrychoedd. Bydd dysgwyr yn defnyddio deunyddiau planhigion tymhorol i greu dyluniadau blaengar ar gyfer y cartref ac ar gyfer digwyddiadau ac achlysuron arbennig.
Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau a'r technegau i chi greu dyluniadau cyfoes a thraddodiadol.
Caiff dysgwyr eu hannog i fod yn ddychmygus ac yn greadigol, gan ddefnyddio gwybodaeth a phrofiad a oedd ganddynt yn flaenorol. Gan symud tuag at leihau'r ddibyniaeth ar sbwng blodau, caiff technegau traddodiadol a blaengar eu defnyddio i greu rhai trefniadau heb ddefnyddio sbwng blodau.
Mae gweithio gyda phobl eraill mewn lleoliad ystafell ddosbarth yn darparu cyfle i gwrdd â phobl newydd o'r un meddylfryd o gefndiroedd amrywiol y gallwch rannu syniadau a thrafod atebion ar gyfer dylundiadau a changlyniadau â nhw.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Gwybodaeth am ddeunyddiau planhigion
- Sgiliau ymdrin â deunyddiau planhigion a gofalu amdanynt
- Arddulliau a thechnegau dylunio uwch
- Cyfleoedd i fod yn greadigol ac yn arloesol
- Gweithgareddau ymarferol.
Bydd dysgwyr yn derbyn y canlynol:
- Dysgu wyneb yn wyneb
- Arddangosiadau o sgiliau dylunio uwch
- Arweiniad ac adborth gan diwtoriaid
- Taflenni arweiniad ar-lein (Google classroom)
Fformat dysgu: Wyneb i wyneb, gydag adnoddau ar-lein.
Côd y cwrs: EN042483.LG