Paentio dyfrlliw ar gyfer gallu cymysg [Dydd Iau, 6.30pm-8.30pm] - EN012459.AM
Mae'r cyrsiau hyn yn addas ar gyfer cyfranogwyr Dysgu Gydol Oes presennol, ac maent ar gael drwy atgyfeiriad yn unig.
Gellir dod o hyd i'n cyrsiau Dysgu Gydol Oes prif ffrwd gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Cyrsiau Dysgu Gydol Oes
Hyd: 10 wythnos
Drwy sesiynau byw mewn ystafell ddosbarth, byddwch yn gallu dysgu neu ddatblygu sgiliau sydd gennych eisoes i greu celfweithiau hyfryd. Byddwch yn dod i ddeall y dulliau a'r technegau i greu celfyddyd dyfrlliw. Byddwch yn gwylio'ch tiwtor medrus yn arddangos y technegau a ddefnyddir i gynhyrchu'r celfweithiau gwych hyn, yna cewch ofyn cwestiynau a rhannu syniadau â dysgwyr eraill, cyn rhoi cynnig ar greu eich ceflwaith eich hun, ac yn ddiweddarach, byddwch yn trafod ac yn derbyn adborth gan eich tiwtor.
Trwy gyfrwng dyfrlliw, byddwch yn gallu paentio tiweddau, morluniau, adlewyrchiadau a chysgodion. Dysgwch dechnegau, fel paentio paent gwlyb ar baent wlyb, cymysgu lliwiau, gwerth tonyddol a chyfansoddiad. Trawsnewidiwch ymddangosiad eich paentiadau dyfrlliw gan ddefnyddio acrylig cyfrwng cymysg, inc, pastel a gouache.
Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:
- Hyfforddiant mewn ystafell ddosbarth.
- Enghreifftiau ac adnoddau wedi'u hargraffu.
- Aseiniadau dosbarth.
- Adborth a chefnogaeth benodol gan diwtor.
Fformatt dysgu: Wyneb yn wyneb
Côd y cwrs: EN012459.AM