Toglo gwelededd dewislen symudol

Ysgrifennu creadigol [Dydd Gwener, 10.30am-12.30pm] - ES012469.CJ

Dydd Gwener 28 Ebrill 2023
Wedi gorffen
Amser dechrau 10:30
12:30

Gyda Carolyn Jones. Archwilio'ch Llais Unigryw! Dewch i fwynhau ysgrifennu a rhannu'ch ysgrifennu o fewn amgylchedd grŵp cadarnhaol a chefnogol.

Mae'r dosbarthiadau hyn wedi'u dylunio i'ch cefnogi a'ch annog i ymarfer ysgrifennu mewn sawl genre, gan gynnwys straeon, barddoniaeth, atgofion, straeon teuluol, ffuglen - chi sy'n penderfynu sut i ddefnyddio pob pwnc neu ddull ysgrifennu er mwyn creu darn o ysgrifennu sy'n arwyddocaeol i chi.

Hyd - 10 wythnos

Bydd elfennau'r gweithdy hwn yn cynnwys:

  • Ysgrifennu ym mhob dosbarth.
  • Darllen enghreifftiau o amrywiaeth o fathau o ysgrfennu.
  • Trafod a rhannu syniadau am ysgrifennu.
  • Mwynhau'r cyfle hwn i archwilo darllen ac ysgrifennu am bynciau gwahanol.

Bydd sesiynau'n cynnwys:

  • Dysgu wyneb-yn-wyneb.
  • Taflenni sy'n cynnwys gwaith ysgrifennu gan ffynonellau cyhoeddedig fel enghreifftiau o genres, arddulliau a phynciau penodol.

Yn hyn fydd ei angen arnoch chi:

Rhywbeth i ysgrifennu arno, rhywbeth i ysgrifennu ag ef, a mwg ar gyfer ein egwyl de. (Darparir te a choffi gan Dysgu Gydol Oes)

Fformat dysgu: Wyneb-yn-wyneb.

Côd y cwrs: ES012469.CJ

 

Llyfrgell Gorseinon

15 Stryd y Gorllewin

Gorseinon

Abertawe

SA4 4AA

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Amserau eraill ar Dydd Gwener 28 Ebrill 2023

Dim enghreifftiau o hyn
Close Dewis iaith