Hanfodion Ffotograffiaeth [Dydd Mercher, 10.00am-12.00pm] - DL042439.LB
Hyd - 10 wythnos
Uwch: Cwrs sy'n addas ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys gan ddefnyddio eu camera a'u hoffer ac a hoffai ddeall mwy o'r broses weledol yn hytrach na'r dechnegol i wella eu ffotograffiaeth. Bydd y dull hwn yn datblygu gwaith pob unigolyn i lefel uwch, gan ehangu ymwybyddiaeth bresennol a chael dealltwriaeth bellach o greu delweddau.
Bob wythnos bydd myfyrwyr yn ennill sgiliau sy'n eu galluogi i ddefnyddio nodweddion eu camera yn llawn. Hefyd, datblygu eu creadigrwydd yn hytrach na'r pwyslais ar agweddau technegol ar ffotograffiaeth. Edrych ar enghreifftiau o waith ffotograffydd arall, arddulliau ffotograffig a phynciau, ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr o ffotograffiaeth, gan eu hannog i archwilio cyfeiriadau newydd.
Rhoddir prosiectau i fyfyrwyr eu cwblhau yn ymwneud â phynciau yr ymdrinnir â hwy yn ystod y cwrs. Bydd hyn yn gyfle delfrydol i feithrin arddull unigol, archwilio pwnc a themâu newydd, gan gynhyrchu delweddau o ddiddordeb a strwythur. Gall myfyrwyr rannu eu gwaith trwy'r ystafell ddosbarth ar-lein, platfform lle gallant hefyd drafod pynciau a phrosiectau sy'n gysylltiedig â lluniau. Creu deialog a fydd yn cefnogi, ysbrydoli ac annog datblygiad a mwynhad ei gilydd o ffotograffiaeth.
Rhennir dolenni i wefannau, erthyglau ac arddangosfeydd defnyddiol. Bydd teithiau maes yn cael ei gynllunio i ddigwydd yn ystod y cwrs, ond bydd hyn yn dibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Cofid-19.
Bydd y themâu yn ymdrin:
- Deall sut i ddefnyddio cyfansoddiad, fframio, geometreg, lliw, ffurf a goleuadau yn effeithiol i greu ffotograff da.
- Ysbrydoliaeth gan waith ffotograffwyr ac artistiaid eraill.
- Portread.
- Ffotograffiaeth Teithio.
- Ffotograffiaeth Stryd.
- Haniaethol.
- Natur a Thirwedd.
- Ffotograffiaeth macro (agos).
- Ffotograffiaeth du a gwyn.
- Cynhyrchu stori ffotograffau, cyfuno geiriau a lluniau.
- Cyflwyno gwaith mewn sawl ffurf, yn weledol, wedi'i argraffu, fideo, gan gyfuno cerddoriaeth a tecst.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Addysgu yn yr ystafell ddosbarth.
- Aseiniadau / Prosiectau.
- Darperir adborth tiwtoriaid ar aseiniadau.
- Trafodaeth grŵp a gwerthusiad o waith gan y dosbarth.
Gellir cynnal teithiau maes fel rhan o'r cwrs 10 wythnos hwn, yn dibynnu ar ganllawiau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â Cofid-19.
Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Format dysgu: Wyneb i wyneb.
Côd y cwrs: DL042439.LB