Arlunio ar gyfer Ddechreuwyr Llwyr [Dydd Mawrth, 6.10-7.10pm]
Gyda June Palmer. Ymarfer celf a gwerthawrogiad celf i ddechreuwyr llwyr.
Mae'r cwrs hwn yn £10 y tymor.Arôl clicio "cyflwyno", a wnewch gwirio eich manylion archebu ac yna wasgwch botwm "archebwch nawr". Byddwch yn derbyn e-bost awtomataidd gyda ddolen ddiogel i gwblhau eich daliad.
Tymor 1 - Arlunio ar gyfer ddechreuwyr llwyr
Ymarfer celf a gwerthfawrogi celf
Tymor 2 - Arlunio i ddechreuwyr
Ymarfer celf a gwerthfawrogi celf i ddechreuwyr
Tymor 3 - Arlunio - canolradd
Ymarfer celf a gwerthfawrogi celf.
Dysgu a datblygu sgiliau lluniadu gan ddefnyddio llinell, tôn, gwead a lliw i gwblhau ymarferion a gweithiau celf gorffenedig. Defnyddiwch amrywiaeth o gyfryngau, fel pensiliau, siarcol a beiros i ddatblygu sgiliau a thechnegau.
Yn y dosbarth dechreuwyr hwn byddwn yn edrych ar waith artistiaid eraill i ysgogi syniadau a datblygu ein gwerthfawrogiad a'n harfer celf ein hunain. Dosbarth sylfaen fydd hwn i gyflwyno hanfodion lluniadu gyda chyfryngau sych a bydd yn fan cychwyn cadarn ar gyfer datblygiad unigol.
Bydd elfennau'r cwrs yn cynnwys:
- Gweithgareddau arlunio penodol i gyflwyno'r pethau sylfaenol.
- Cyflwyniad i waith artistiaid eraill hanesyddol a chyfoes.
- Canllawiau sesiynau strwythuredig.
- Amrywiaeth o gyfryngau a ddefnyddir.
Sylwer, fodd bynnag, fod y cwrs yn rhedeg dros dri thymor, gyda datblygiad sgiliau drwyddo. Gall ymuno yn nhymor tri olygu y bydd rhai o'r pethau sylfaenol wedi'u cwmpasu'n flaenorol.
Bydd sesiynau'n cynnwys:
- Pwnc a addysgir gan ddefnyddio dogfennau ac adnoddau ar-lein.
- Dilynir pob pwnc gan aseiniad dosbarth.
- Bob wythnos bydd trafodaeth ac adborth dosbarth byw yn cael ei gynnal i drafod pynciau ac aseiniadau, gyda chyfle i ofyn cwestiynau ac atebion. Bydd hyn yn digwydd trwy gyflewuster Google Classroom Stream.
- Darperir adborth penodol gan diwtoriaid ar aseiniadau dysgwyr unigol trwy Google Classroom.
Gellir astudio'r cwrs 10 wythnos hwn ar ei ben ei hun ond mae hefyd yn rhan o raglen ddysgu barhaus tri thymor.
Darperir rhestr deunyddiau yn ystod y sesiwn cyntaf. Addysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Fformat dysgu: Ar-lein.
Côd y cwrs: A042246.JPA