Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfnod ynni effeithlon newydd i raglen fuddsoddi mewn tai gwerth £550m y cyngor

Mae rhaglen sy'n werth bron £550m i foderneiddio cartrefi cyngor yn Abertawe wedi arwain at filoedd o denantiaid yn cael ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd, deunydd inswleiddio wedi'i osod yn eu cartrefi a chymorth arbed ynni arall.

Mae rhaglen Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) sydd wedi bod ar waith ers bron 20 mlynedd wedi cynnwys uwchraddio 13,000 o gartrefi a chymunedau lleol, gan greu a chefnogi cannoedd o swyddi a phrentisiaethau lleol.

A bydd y rhaglen foderneiddio uchelgeisiol yn cychwyn cyfnod newydd yn y blynyddoedd i ddod, sydd â'r nod o wneud tai cyngor hyd yn oed yn fwy ynni-effeithlon ac yn addas ar gyfer dyfodol carbon sero net.

Dywedodd Andrea Lewis, Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni, fod cyflawniadau rhaglen SATC dros y ddau ddegawd diwethaf wedi helpu i drawsnewid bywydau, gan sicrhau bod cartrefi'n ddiogel, yn gynnes ac yn fforddiadwy i denantiaid.

Dros y blynyddoedd gwariwyd bron £225m ar ffenestri gwydr dwbl newydd, atgyweirio toeon a waliau, ynghyd â £33m arall ar fentrau arbed ynni fel gosod boeleri newydd, rheolyddion gwresogi ac inswleiddio llofftydd.

Gwariwyd £147m arall ar geginau ac ystafelloedd ymolchi modern gyda £51m yn cael ei wario ar addasiadau i gartrefi pobl anabl a £68m ar fesurau diogelwch fel larymau mwg, mesurau diogelwch nwy a thrydanol.

Meddai'r Cyng. Lewis, "Rhaglen SATC oedd y buddsoddiad mwyaf mewn tai y mae Cyngor Abertawe wedi'i weld ers dros genhedlaeth. Ond y rheini sydd wedi elwa'n wirioneddol yw'r teuluoedd a'r tenantiaid unigol sydd â chartref diogel, fforddiadwy a modern i fyw ynddo.

"Yn anad dim, roedd rhaglen SATC yn fuddsoddiad ym mhobl Abertawe a'u dyfodol. Rydym wedi cyflawni hyn ac mae miloedd lawer o bobl wedi elwa ohono.

Ni ddefnyddiwyd unrhyw arian o Dreth y Cyngor i dalu am gost y rhaglen. Talwyd am y cyfan drwy renti a grantiau gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd y Cyng. Lewis fod cymaint o fuddsoddiad SATC â phosib yn cael ei wario'n lleol, er budd swyddi'r ddinas ac economi Abertawe.

Meddai, "Mae cam nesaf y rhaglen sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd â Llywodraeth Cymru a darparwyr tai cymdeithasol ledled Cymru yn edrych ar ba mor bell a pha mor gyflym y gallwn fynd i'w gwella ymhellach fyth yn y blynyddoedd i ddod.

"Bydd pwyslais arbennig ar fentrau fel ôl-osod cartrefi i'w gwneud yn gynhesach am lai o gost a lleihau eu hôl troed carbon."

 

 

 

 

 

Close Dewis iaith