Toglo gwelededd dewislen symudol

Y cyngor yn lansio rownd ariannu newydd i helpu cymunedau Abertawe i ffynnu

Mae Cyngor Abertawe wedi lansio rownd ariannu newydd ar gyfer syniadau a all ddod â bywiogrwydd newydd i gymunedau lleol.

West Street Gym

West Street Gym

Mae'r cyfle'n rhan o ymgyrch Cyllido Torfol Abertawe, cynllun sy'n helpu i gyflwyno syniadau arloesol a arweinir gan y gymuned i wella'r ddinas.

Cynhelir ymgyrch Cyllido Torfol Abertawe gan y cyngor a phrif lwyfan cyllido torfol y DU, Spacehive. Mae'n ceisio ariannu a chyflwyno syniadau cyffrous a blaengar o'r gymuned leol ac er budd y gymuned leol.

Gallai prosiectau cymwys dderbyn ernes gwerth £5,000 gan y cyngor tuag at eu targedau cyllido torfol.

I fod â chyfle i sicrhau'r cymorth hwn, dylai grwpiau lleol greu a lansio'u prosiectau ar lwyfan cyllido torfol Spacehive a'u cyflwyno i Gyllido Torfol Abertawe erbyn 29 Mawrth.

Ymysg y rheini sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod rowndiau cyllido blaenorol mae Clwb Gymnasteg West Street, yr oedd yr arian wedi helpu i ariannu gwaith adnewyddu hanfodol i'w safle yng Ngorseinon. Drwy Gyllido Torfol Abertawe, fe lwyddon nhw i gyrraedd £25,204 a rhoddwyd arian iddynt gan 120 o gefnogwyr.

Meddai Judith Williams o'r clwb, "Diolch i bawb a oedd wedi cefnogi ein cais ac wedi ein helpu i gyflawni ein targed."

Meddai Aelod y Cabinet, Andrew Stevens, "Po fwyaf o bobl sy'n ymwneud â Chyllido Torfol Abertawe, y mwyaf o leoedd anhygoel y gallwn eu creu gyda'n gilydd."

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y rownd ariannu nesaf, fel cyllidwr neu i ddatblygu prosiect, ymuno â gweithdy digwyddiad lansio ar-lein am ddim ar 8 Chwefror. I gadw lle, cofrestrwch yma: www.bit.ly/CSworkshop8223 

Llun: Clwb Gymnasteg West Street, Gorseinon.

Close Dewis iaith