Toglo gwelededd dewislen symudol

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin - canllawiau ffurflen

Sylweddolwn fod y ffurflen gais yn eithaf hir, a gall edrych yn frawychus, fodd bynnag bydd y nodiadau canllaw hyn yn eich arwain drwyddi fesul cwestiwn.


Cyflwyniad

Diolch i chi am ddangos diddordeb mewn gwneud cais i'r Gronfa Ffyniant Gyffredin. Sylweddolwn fod y ffurflen gais yn eithaf hir, a gall edrych yn frawychus, fodd bynnag bydd y nodiadau canllaw hyn yn eich arwain drwyddi fesul cwestiwn. Os oes unrhyw beth yn aneglur o hyd ar ôl i chi ddarllen y nodiadau hyn, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm SPF lleol.

Cyn i ni ddechrau'r canllawiau ar gyfer y cwestiynau eu hunain, mae rhai pwyntiau allweddol i'w cofio yn gyffredinol.

  • Rhaid llenwi'r ffurflen gais a'i chyflwyno drwy'r porth ar-lein. Sicrhewch eich bod yn ateb pob cwestiwn yn llawn.
  • Rhaid cwblhau Atodiad A a'i gyflwyno. Ni chaiff eich cais ei sgorio os yw ar goll neu'n anghyflawn.
  • Dylech ddisgrifio eich prosiect mor syml â phosibl. Defnyddiwch iaith syml, ceisiwch osgoi termau technegol lle bo modd, ac eglurwch unrhyw acronymau. Os na all aseswr ddeall y Prosiect, ni ellir ei asesu yn erbyn y meini prawf dethol a bydd y cais yn cael ei wrthod. Os yw cwestiwn yn nodi nifer geiriau, ni ddylech fynd y tu hwnt iddo. Ni fydd unrhyw wybodaeth ychwanegol a thestun y tu hwnt i unrhyw gyfyngiad geiriau yn cael eu hystyried. Os gallwch ddefnyddio llai o eiriau, nid oes angen chwyddo'ch atebion er mwyn defnyddio'r terfyn geiriau.
  • Os yw'r prosiect arfaethedig yn bwriadu cyflenwi o dan fwy nag un ymyriad, rhowch amcangyfrif o ganran y cyllid a fydd yn cael ei wario o dan bob ymyriad yn Atodiad A.
  • Bydd asesiad eich cais yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarperir yn y Ffurflen Gais, yr Atodiad ac yn achos ymgeiswyr o'r sector preifat a gwirfoddol, copi o'u cyfrifon diweddaraf. Peidiwch ag atodi unrhyw atodiadau eraill na chynnwys dolenni i wefannau.

I fod yn gymwys, rhaid i weithgareddau'r prosiect arfaethedig ddigwydd o fewn ardal yr awdurdod lleol. Rhaid i weithgareddau'r prosiect fod wedi'u cwblhau a'u talu erbyn 31 Rhagfyr 2024

Yn Rhan 1 y cais, gofynnir cyfres o gwestiynau i chi i sicrhau bod eich prosiect yn bodloni'r holl ofynion cymhwyster ar gyfer y math o gais. Asesir y cwestiynau hyn ar sail llwyddo/methu. Os byddwch yn methu unrhyw un o'r cwestiynau cymhwyster, yn anffodus ni ellir ystyried eich cais.

Bydd gweddill y cwestiynau ar y ffurflen gais yn cael sgôr ansawdd ar sail 1-5. Rhaid i chi sgorio o leiaf 3 ar bob cwestiwn er mwyn i'ch cais gael ei ystyried. Efallai y cewch gyfle i ailymweld neu roi eglurder ychwanegol ar gwestiynau y gellir eu sgorio o dan 3. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi'i warantu a chaiff ei asesu fesul achos. 

Matrics scorio

Gradd

Meini Prawf

Sgôr

Da iawn

 

• Yn dangos aliniad cryf iawn â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltu lleol.

5

• Prosiect yn cynnig gwerth da iawn am arian, mae costau uned fesul allbwn/deilliant yn dda iawn, gyda strategaeth ymadael sy'n dangos cynaliadwyedd ar ôl cyllid grant

• Hyder llwyr yn y gallu i gyflenwi a chyflawni'r allbynnau a deilliannau arfaethedig.

• Rhagolygon da iawn ar gyfer llwyddiant y prosiect.

Da

•  Yn dangos aliniad da â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltu lleol.

4

• Prosiect yn cynnig gwerth da am arian, mae costau uned fesul allbwn/deilliant yn dda, gyda strategaeth ymadael sy'n amlinellu'r potensial i gynnal y prosiect ar ôl cyllid grant

• Lefel uchel o hyder mewn cyflawniad a chyflawni'r allbynnau a deilliannau arfaethedig.

• Rhagolygon da ar gyfer llwyddiant y prosiect

Derbyniol

•  Yn dangos aliniad derbyniol â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltu lleol.

3

• Prosiect yn cynnig gwerth rhesymol am arian, mae costau uned fesul allbwn/deilliant yn dderbyniol, gyda strategaeth ymadael sy'n amlinellu rhai opsiynau posibl ar gyfer cynnal darpariaeth ar ôl cyllid grant.

• Rhai gwendidau neu ddiffygion derbyniol o ran y gallu i gyflenwi

• Lefel resymol o hyder yn y gallu i gyflenwi a chyflawni'r allbynnau a deilliannau arfaethedig.

• Tebygolrwydd rhesymol o lwyddiant y prosiect

Ymylol

•  Yn dangos aliniad sylfaenol ond cyfyngedig â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol, tystiolaeth o angen ac ymgysylltiad lleol.

2

• Y gallu o bosibl i gyflenwi a chyflawni'r allbynnau a deilliannau arfaethedig.

• Prosiect yn annhebygol o gynnig gwerth am arian, mae costau uned fesul allbwn/deilliant yn uchel, gyda strategaeth ymadael sy'n methu â rhoi hyder mewn parhad cyllid ar ôl grant.

• Rhai gwendidau neu ddiffygion

• Lefel gyfyngedig o hyder mewn cyflenwi a chyflawni'r allbynnau a deilliannau arfaethedig.

• Posibilrwydd o lwyddiant y prosiect

Gwael

•  Yn dangos dealltwriaeth gyfyngedig iawn o angen lleol, ymgysylltu, neu allu cyfyngedig iawn i fodloni aliniad â blaenoriaethau lleol a chenedlaethol

1

• Gwendidau neu ddiffygion mawr

• Prosiect yn methu â chynnig gwerth am arian, mae costau uned fesul allbwn/deilliant yn uchel iawn. Mae'r strategaeth ymadael yn wael.

• Lefel gyfyngedig iawn o hyder mewn cyflenwi a chyflawni'r allbynnau a deilliannau arfaethedig.

• Tebygolrwydd isel o lwyddiant y prosiect

Annerbyniol

•  Yn methu â bodloni'r meini prawf ym mhob ffordd

0

• Yn dynodi camddealltwriaeth lwyr o'r gofynion a nodwyd, neu ddiffyg cydymffurfio â hwy

• Dim hyder mewn cyflenwi a chyflawni'r allbynnau a deilliannau arfaethedig.

• Dim gobaith o lwyddiant y prosiect

 

Rhan 1 - gwybodaeth am yr ymgeisydd (gwirio cymhwyster)

1a) Enw'r Prosiect

Rhowch brif enw'r prosiect. Dylai enw eich prosiect roi teimlad o'ch prosiect i bwy bynnag sy'n darllen eich cais cyn iddynt ddarllen y disgrifiad. Cyfyngwch hyn i frawddeg fer ar y mwyaf i'w gwneud yn gofiadwy.

Bydd rhif CFfG penodol yn cael ei ddyrannu i bob cynnig prosiect pan gyflwynir ef. Bydd y rhif cynnig hwn a'r enw a nodir yma wedyn yn cael eu defnyddio i gyfeirio at y cynnig ym mhob gohebiaeth yn y dyfodol.

1b) Sefydliad yr ymgeisydd arweiniol:

Cadarnhewch enw cyfreithiol y prif sefydliad sy'n ymgeisio.

1c) Dyddiad dechrau'r / gorffen y prosiect

Mae hyn yn cynnwys y dyddiadau cynharaf a diweddaraf a ganiateir hyd at ei gyflenwi a'ch cyflwyniad terfynol o hawliadau

1ch) Costau a Chyllid y Prosiect 

Cadarnhewch gyfanswm y cais am grant y Gronfa Ffyniant Gyffredin, unrhyw arian cyfatebol yr ydych yn ei ddarparu a chyfanswm cost y prosiect

1d) Enw a swydd yr ymgeisydd arweiniol: 

Yr Ymgeisydd Arweiniol yw'r person sydd â chyfrifoldeb o ddydd i ddydd am gyflenwi'r prosiect.

1dd) Rhif ffôn cyswllt yr ymgeisydd arweiniol:  

Darparwch rif(au) ffôn cyswllt lle gellir cysylltu â'r Ymgeisydd Arweiniol

1e) Cyfeiriad e-bost yr ymgeisydd arweiniol:

Cyfeiriad e-bost lle gellir cysylltu â'r Ymgeisydd Arweiniol

1f) Cyfeiriad post yr ymgeisydd arweiniol:

Rhowch gyfeiriad post y Prif Ymgeisydd yn unig.

1ff) Enw a swydd yr ail gyswllt:  

Nodwch berson cyswllt arall y gellid cysylltu ag ef yn absenoldeb y Prif Ymgeisydd

1g) Rhif ffôn yr ail gyswllt:

Rhowch rif ffôn cyswllt ar gyfer y cyswllt eilaidd

1ng) Cyfeiriad e-bost yr ail gyswllt:

Cyfeiriad e-bost y cyswllt eilaidd

1h) Cyfeiriad post yr ail gyswllt:

Cyfeiriad post y cyswllt eilaidd

1i) Gwefan:

Rhowch gyfeiriad llawn y wefan

1l) Rhif cofrestru cwmni neu elusen: 

Ysgrifennwch Amh. os nad yw'n berthnasol.

1ll) Rhif cofrestru TAW: 

Ysgrifennwch Amh. os nad yw'n berthnasol

1m) Cadarnhewch y math o sefydliad:

  • Awdurdod Lleol
  • Sector preifat
  • Sector gwirfoddol
  • Prifysgol
  • Coleg Addysg Bellach
  • Arall (nodwch)

Sicrhewch eich bod yn ticio'r blwch perthnasol i gadarnhau eich math o sefydliad.

Os arall, nodwch.

1n) Ydy hwn yn gais partneriaeth ar y cyd?  

Ymgeisydd i dicio'r blwch perthnasol i gadarnhau.

Lle cyflwynir cynnig ar y cyd, rhaid darparu ffurflen gais ar y cyd ar gyfer pob sefydliad partner. Bydd yn ofynnol i un sefydliad weithredu fel y prif ymgeisydd. Rhaid i brif ymgeiswyr sicrhau bod pob sefydliad partner yn gymwys i dderbyn cyllid CFfGDU a chydymffurfio â holl ofynion CFfGDU fel y nodir yn y prosbectws a gwybodaeth ychwanegol. Sicrhewch fod yr enwau a'r rhifau cofrestru sydd wedi'u cofrestru'n gyfreithiol yn cael eu darparu i bob sefydliad partner.

Nid yw'r canlynol yn cael eu dosbarthu fel sefydliadau partner:

  • sefydliadau a gaffaelwyd i ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu waith fel rhan o'r prosiect
  • partneriaid sy'n ymwneud â llywodraethu prosiectau e.e. aelodau o fwrdd prosiect neu grŵp llywio

1o) Rhaid i bob ymgeisydd gadarnhau'r canlynol:

D.S. Os na allwch chi gyflawni'r gofynion hyn isod, bydd eich cais yn cael ei wrthod.

(i) Darperir y prosiect gan gorff corfforaethol sydd â gallu neu ganiatâd i dderbyn arian cyhoeddus. 

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

 

(ii) Rydych chi wedi cyflwyno cais wedi'i gwblhau'n llawn, gan gynnwys Atodiad A. 

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

(iii) Ni fydd unrhyw arian yn cael ei wario ar eitemau neu weithgareddau wedi'u heithrio o gymorth Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, fel y nodir ar 7.5.1 o'r prosbectws:  Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Prosbectws - (www.gov.uk). (Yn agor ffenestr newydd)

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

(iv) Rydych chi wedi darllen canllawiau Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Brandio a Chyhoeddusrwydd (6) - GOV.UK (www.gov.uk) a byddwch yn cydymffurfio â phob agwedd arnynt (Yn agor ffenestr newydd).  

 

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

(v) Ceisiadau ar y cyd:

Rydych wedi cyflwyno ffurflen gais ar y cyd (lle bo hynny'n berthnasol) ar gyfer pob sefydliad sy'n rhan o'r prosiect. Rydych wedi sicrhau bod holl aelodau'r consortiwm wedi cadarnhau eu cefnogaeth ar gyfer y prosiect, gan gynnwys unrhyw gyllid cyfatebol y maent yn ei ddarparu.

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

(vi) Arian cyfatebol (lle mae'n rhan o'r pecyn ariannu):

Rydych wedi cyflwyno ffurflen arian cyfatebol ar gyfer pob sefydliad sy'n darparu cyllid cyfatebol, gan gynnwys incwm gan fuddiolwyr. Os yw'r prosiect yn dibynnu ar gyllid cyfatebol nad yw wedi'i sicrhau eto, defnyddiwch y ffurflen hon i egluro pryd y disgwylir iddo gael ei sicrhau a beth fyddai'r effaith os na chaiff ei sicrhau.

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

(vii) Ymgeiswyr y Sector Preifat a Gwirfoddol:

Cadarnhewch eich bod wedi atodi copïau llawn o gyfrifon ariannol llawn y 2 flynedd ddiweddaraf a chyfrifon rheoli'r flwyddyn gyfredol ar gyfer yr ymgeisydd arweiniol.

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  
  • (viii) Cadarnhewch, o fewn y 5 mlynedd diwethaf, nad yw'ch sefydliad neu unrhyw berson sydd â phwerau cynrychioli, penderfynu neu reoli o fewn y sefydliad wedi'i euogfarnu yn unrhyw le yn y byd o'r troseddau a restrir isod:
    • Ymwneud â sefydliad troseddol
    • Llygredigaeth
    • Twyll
    • Troseddau terfysgol neu gysylltiadau â gweithgarwch terfysgol
    • Gwyngalchu arian neu ariannu terfysgol
    • Llafur plant neu unrhyw fath o fasnachu bodau dynol

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

(ix) Os yw'r sefydliad neu unrhyw un sydd â phwerau cynrychioli, penderfynu neu reoli wedi'i euogfarnu o un o'r troseddau hyn yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, rhowch fanylion yn y blwch isod: 

Rhowch fanylion llawn unrhyw droseddau a chollfarnau.

  • Rwy'n cadarnhau hyn  

Rhan 2 - crynodeb o'r prosiect

2a) Crynodeb byr o'r gweithgareddau neu'r gwasanaethau rydych chi'n bwriadu eu darparu.

(hyd at 100 gair) 

Rhowch ddisgrifiad byr i grynhoi'r prosiect, ei weithgareddau a'r gwasanaethau yr ydych yn bwriadu eu darparu. Dylai roi cipolwg clir a chryno - ciplun y gallai rhywun sy'n anghyfarwydd â'r prosiect ei ddeall.

2b) Ydy'r cais yn cael ei gyflwyno mewn ymateb i gyfle am arian grant drwy alwad agored neu er mwyn gwneud cais am brosiect angori

 

 

Mae prosiectau angori yn brosiectau mawr sy'n cael eu rhedeg yn fewnol gan awdurdodau lleol i gyflawni rhannau sylweddol o'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol.

Ticiwch y blwch perthnasol i gadarnhau.

Os ydych yn ymateb i alwad agored, cynhwyswch y Cyfeirnod Galwad Agored a dyddiad cau'r alwad benodol

2c) Cadarnhewch isod pa flaenoriaeth fuddsoddi sy'n cael ei chwmpasu gan y prosiect hwn. Dewiswch bob un sy'n berthnasol.  

  • Cymunedau a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau
  • Lluosi

Ticiwch y flaenoriaeth fuddsoddi sy'n berthnasol i'r prosiect.

Rhaid i brosiectau ddangos sut y maent yn cyd-fynd ag o leiaf un o'r blaenoriaethau a'r ymyriadau buddsoddi.

Mae manylion llawn y blaenoriaethau buddsoddi wedi'u nodi ym mhrosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol - dolen isod:-

https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy

Dolen i'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol

2ch) Rhestrwch holl ymyriadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU y bydd eich prosiect yn eu cyflawni ac amlygwch y prif ymyriad mewn print trwm. 

 

 

 

Cyfeiriwch at Atodiad A neu'r ddolen isod am restr o ymyriadau o dan bob un o'r tair blaenoriaeth fuddsoddi. 

Ymyriadau, Amcanion, Canlyniadau ac Allbynnau - Cymru (publishing.service.gov.uk)

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU (PDF) [10KB]

Dylech ddarparu rhestr o'r holl ymyriadau y bydd eich prosiect yn eu cyflenwi ac yna amlygu mewn print trwm y prif ymyriad y bydd eich prosiect yn ei gyflawni (o ran lefel gwariant uchaf)

2d) Rhowch ddisgrifiad manwl o'r gweithgareddau a'r gwasanaethau arfaethedig.  

 

(uchafswm 1500 gair) 

Amlinellwch amcanion eich prosiect yma.

Dylai eich ateb esbonio'r hyn yr ydych yn bwriadu ei ddarparu, sut y caiff gweithgareddau a gwasanaethau eu darparu i fodloni'r ymyriadau a restrir yn 2ch uchod, pwy fydd y buddiolwyr a ble y byddant yn cael eu darparu.

Gall fod yn anodd barnu a yw cais yr ydych wedi'i ysgrifennu eich hun yn hawdd i rywun o'r tu allan ei ddeall, felly rydym yn awgrymu gofyn i rywun nad yw'n gyfarwydd â'ch prosiect ddarllen eich disgrifiad a'i esbonio'n ôl i chi.

2dd) Rhowch restr o'ch partneriaid cyflawni a'u rôl yn y prosiect  

Rhowch enw'r sefydliad, beth yw eu rôl yn y prosiect, a ydynt yn gyfrifol am ymyriadau penodol neu allbynnau/canlyniadau.

Bydd angen i arweinwyr prosiectau lleol gael cytundebau neu gontractau / protocolau rhannu data yn eu lle cyn dechrau cyflenwi'r prosiect.

2e) Eglurwch sut mae eich gweithgareddau arfaethedig yn cyd-fynd â'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer De-Orllewin Cymru a sut mae'n cyflawni'r amcanion a'r ymyriadau sy'n cael eu hamlinellu gan Lywodraeth y DU.

(uchafswm o 750 gair) 

Dylai ymgeiswyr ddangos cysylltiadau cryf â'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol a sut y bydd y gweithgareddau a gynigir yn cyflawni hyn.

Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol

 

 

2f) Sut mae'r cynnig yn cyd-fynd ag anghenion lleol a chynlluniau strategol tymor hir ar gyfer twf lleol?

(uchafswm o 500 gair)  

Dylai pob ymgeisydd esbonio sut mae'r prosiect yn cyd-fynd ag anghenion lleol a sut mae'n cefnogi cyflenwi cynlluniau strategol hirdymor ar gyfer twf.

Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol ar gyfer De Orllewin Cymru

Cynllun Gweithredu Adferiad Economaidd Abertawe

Cynllun Rhanbarthol Cyflogaeth a Sgiliau

2ff) Lle mae darpariaeth arall ar gael neu yn yr arfaeth, pa gamau ydych chi wedi'u cymryd i sicrhau na fydd eich prosiect yn dyblygu'r ddarpariaeth hon?

(uchafswm o 500 gair) 

Lle mae darpariaeth arall ar gael neu yn yr arfaeth, dylech egluro pa gamau yr ydych wedi'u cymryd i sicrhau na fydd eich prosiect yn dyblygu'r ddarpariaeth hon nac yn disodli'r galw presennol. Eglurwch sut y byddwch yn osgoi dyblygu darpariaeth yn y prosiectau angori ar gyfer yr ardal awdurdod lleol hon.

2g) Dangoswch sut rydych chi wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol priodol wrth ddatblygu'r prosiect hwn.

(250 o eiriau) 

Ymgeiswyr i ddarparu manylion ymgysylltu â rhanddeiliaid ar yr adeg cyflwyno gan randdeiliaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

2ng) Pa leoedd fydd yn elwa o'r gweithgaredd? 

Rhowch fanylion yr ardal(oedd) daearyddol lle y cyflenwir y prosiect, a pha ardaloedd fydd yn elwa o'r gweithgaredd. Nodwch y cod post ar gyfer prosiectau adeiladu cyfalaf neu ardal awdurdod lleol ar gyfer unrhyw brosiect arall.

2h) Beth yw'r cerrig milltir allweddol ar gyfer rhoi'r prosiect ar waith? 

Llenwch Atodiad A - 5) Cerrig Milltir Cyflawni 

Cwblhewch y cerrig milltir yn Atodiad A

Rhaid i'r cerrig milltir allweddol hyn gysylltu â'r gweithgareddau arfaethedig a dangos bod modd cyflenwi'r prosiect erbyn 31 Rhagfyr 2024. Peidiwch â chynnwys cerrig milltir yn ymwneud â chymeradwyo'r cais. Ystyriwch: 

  • sicrhau cymeradwyaeth fewnol ar gyfer y prosiect neu unrhyw gyllid arall
  • sefydlu tîm y prosiect a chaffael ar gyfer gwasanaethau/cyflenwyr allanol
  • lansio'r prosiect a recriwtio buddiolwyr
  • pwyntiau allweddol ar daith y buddiolwr

Bydd prosiectau'n cael eu monitro yn erbyn y cerrig milltir hyn.  

2i) Prosiectau Cyfalaf yn unig:

Dylai pob prosiect cyfalaf ystyried y canlynol:

  • Cyfranogiad y gymuned mewn dylunio
  • Dileu troseddau drwy ddylunio
  • Hygyrchedd
  • Cynnal a chadw unrhyw ased a ddatblygir/estynnir mewn modd cynaliadwy 
  • Defnyddio gwirfoddoli i sicrhau bod yr ased ar waith yn y gymuned leol
  • Y manteision cymdeithasol a fydd yn cael eu cynhyrchu, yn unol â - Y Tu Hwnt i Frics a Morter

I brosiectau cyfalaf yn unig:

Defnyddiwch yr adran hon i ddisgrifio sut yr ydych wedi ystyried yr egwyddorion a osodwyd fel rhan o ddyluniad y gweithgareddau arfaethedig. Er enghraifft, darparu tystiolaeth i ddangos sut y bu ymgysylltu â'r gymuned o gymorth wrth lunio a dylunio'r prosiect.

 

 

 

Rhan 3 - manylion ac effaith y prosiect

Ar gyfer cwestiynau 3a-3Dd, disgrifiwch mewn 500 o eiriau neu lai. Byddwch mor gryno â phosib.  

3a) Pa Allbynnau a Chanlyniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU y bydd y prosiect yn eu cyflawni? Yn eich ymateb esboniwch hefyd sut bydd gweithgarwch y prosiect yn cynhyrchu'r allbynnau a'r canlyniadau a ragwelir, sut mae'r ffigurau allbwn a chanlyniadau wedi'u hamcangyfrif a sut y byddant yn cael eu dangos. 

Disgrifiwch isod a llenwch Atodiad A

Dylid darparu disgrifiad byr i grynhoi allbynnau a chanlyniadau'r prosiect, gan egluro sut y bydd gweithgaredd y prosiect yn cynhyrchu'r allbynnau a'r chanlyniadau a ragwelir, sut rydych wedi amcangyfrif y ffigurau a sut y bydd eich prosiect yn gallu dangos tystiolaeth o'r allbynnau a'r canlyniadau.

3b) Esboniwch i ba raddau y gellid cyflawni'r allbynnau neu'r canlyniadau hyn heb gyllid Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU  

I ba raddau y gellid cyflawni'r allbynnau neu'r deilliannau yr ydych wedi'u cynnwys yn Atodiad A os nad ydych yn derbyn unrhyw gyllid CFfGDU?

3c) Sut mae'r prosiect yn cefnogi uchelgeisiau Sero Net y llywodraeth neu ystyriaethau amgylcheddol ehangach?  


 

 

Dylai'r holl weithgareddau arfaethedig fod yn seiliedig ar arfer gorau carbon isel neu ddi-garbon a chefnogi'r sgiliau cynyddol a'r cadwyni cyflenwi i gefnogi Sero Net lle bo modd. Fel isafswm, dylai buddsoddiad o dan y gronfa hon fodloni'r egwyddor twf glân ac ni ddylai wrthdaro ag ymrwymiad cyfreithiol y DU i dorri allyriadau nwyon tŷ gwydr i sero net erbyn 2050. Dylech esbonio yn yr ateb hwn sut y byddwch yn bodloni'r gofyniad hwn. Gallai hyn gynnwys goblygiadau eich prosiect ar gyfer bioamrywiaeth a rhywogaethau a warchodir, yn ogystal ag ystyriaethau amgylcheddol eraill megis ansawdd aer, lliniaru llifogydd, rheoli gwastraff ac ailgylchu a'r economi gylchol.

3ch) Sut mae'r prosiect yn dangos arloesedd wrth ddarparu gwasanaethau?

Disgrifiwch sut mae'r prosiect yn dangos arloesedd wrth ddarparu gwasanaethau, er enghraifft: 

  • cyflwyno dulliau cyflenwi newydd
  • dulliau integredig newydd ar draws themâu polisi neu
  • gydweithio ar draws meysydd
  • profi dulliau gweithredu presennol gyda gwahanol fathau o fuddiolwyr, ffyrdd newydd o ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi buddiolwyr.

3d) Disgrifiwch sut yr ydych wedi ystyried effeithiau cydraddoldeb eich cynnig, y grwpiau perthnasol yr effeithir arnynt yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig, ac unrhyw fesurau yr ydych yn eu cynnig mewn ymateb i'r effeithiau hyn. Amlinellwch hefyd sut bydd eich cynnig yn cefnogi'r Gymraeg drwy holl gamau cyflawni'r prosiect.  

Yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, bydd angen i brosiectau ystyried eu heffeithiau ar gydraddoldeb, yn enwedig mewn perthynas â grwpiau â nodweddion gwarchodedig, ac amlinellu sut y byddant yn mynd i'r afael â'r rhain.

Dylai prosiectau hefyd amlinellu sut y byddant yn bodloni gofynion cenedlaethol i gefnogi'r Gymraeg wrth gyflenwi ac mewn gwaith hyrwyddo.

3dd) Lle bo'n briodol, amlinellwch sut y bydd eich cynnig yn cefnogi ardaloedd gwledig ac yn cyd-fynd â strategaethau datblygu gwledig lleol.  

Amlinellwch sut y bydd eich prosiect arfaethedig o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol i ardaloedd gwledig a chyflenwi yn erbyn blaenoriaethau ac amcanion allweddol a amlinellir mewn strategaethau datblygu lleol, fel y bo'n briodol.

 

Rhan 4 - ariannol

Ticiwch y blwch perthnasol.

 

Arian cyfatebol yw unrhyw arian heblaw arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a ddefnyddir i gwrdd â chostau'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys incwm gan ymgeisydd y prosiect neu sefydliadau eraill gan gynnwys incwm gan fuddiolwyr.

Nodwch pa arian cyfatebol fydd yn rhan o'r prosiect ac o ble y daw'r arian.

Os yw'r prosiect yn dibynnu ar arian cyfatebol ac nad yw hwn eto wedi'i sicrhau, eglurwch pryd y disgwylir iddo gael ei sicrhau a beth fyddai'r effaith os na chaiff ei sicrhau. Mae angen cyflwyno tystiolaeth o arian cyfatebol wedi'i sicrhau gyda'r ceisiadau wedi'u cwblhau.

Er na fydd arian cyfatebol yn rhan o'r meini prawf asesu ar gyfer ymgeiswyr o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, bydd yn gymorth i sicrhau'r gwerth gorau am arian a'r effaith ar gyfer y rhaglen CFfG.

Os bydd yn ofynnol i ymgeiswyr o'r sector preifat ddarparu arian cyfatebol, ni chaniateir arian cyfatebol mewn nwyddau.

 

Ticiwch y blwch perthnasol.

 

Disgrifiwch sut yr amcangyfrifwyd y gyllideb a nodir yn Atodiad A. Sylwch y dylid mesur swyddi staff mewn CALl.

Er enghraifft: -  

  • costau staff X o swyddi ar gyflogau o £Y pro-rata am Z mis o weithgaredd
  • grantiau rhwng £X a £Y ar gyfartaledd o £Z y grant wedi'i luosi â nifer y buddiolwyr disgwyliedig
  • deunyddiau ar gost o £X fesul buddiolwr wedi'i luosi â nifer y buddiolwyr disgwyliedig. 

Eglurwch sut rydych wedi sicrhau bod costau'n rhesymol ac yn gymesur â'r gweithgareddau sy'n cael eu darparu (er enghraifft wedi'u meincnodi yn erbyn cyfraddau'r farchnad, adroddiadau QS, gwasanaethau caffael, profiad o brosiectau tebyg, cyflogau wedi'u meincnodi yn erbyn cyfraddau'r farchnad/bandiau cyflog).

Eglurwch beth sydd wedi'i wneud i brofi a yw'r gyllideb yn gywir a sut y byddai unrhyw gostau annisgwyl neu gynnydd mewn costau yn cael eu rheoli. 

 

Nid oes unrhyw fethodoleg unigol benodol yn cael ei ffafrio i ddangos gwerth am arian, ond dylai fod yn briodol i gostau prosiect ac allbynnau / deilliannau.

 

Ticiwch y blwch perthnasol.

 

Er mwyn sicrhau ystod briodol o weithgareddau mae'r Corff Arweiniol yn cadw'r hawl i ariannu prosiectau llai o faint gyda llai o ddyraniad cyllid CFfGDU. Dylech felly nodi a fyddai modd cyflenwi'r prosiect ar raddfa lai ac os felly, disgrifiwch y newidiadau i gynllun a gweithgareddau'r prosiect, ac allbynnau a deilliannau a gostyngiad yn y cais am arian grant. Wrth nesáu at uchafswm y gyllideb sydd ar gael, bydd yr arian sy'n weddill yn cael ei ddyrannu i'r prosiect sy'n sgorio orau nesaf, os gellir ei gyflenwi ar raddfa lai. Nodwch yma p'un a allai hwn fod yn opsiwn ymarferol ar gyfer eich cynnig.

 

 

Rhan 5 - caffael

Atebwch mewn 750 gair neu lai. Byddwch mor gryno â phosib. 

5a) Amlinellwch unrhyw elfennau o'r prosiect rydych yn debygol o'u caffael.

Fel rhan o'ch ymateb sylwer hefyd:

  • Nodwch y strategaeth gaffael a'r llwybr y byddwch yn ei dilyn.
  • Sylwer ar ganllawiau Trothwyon contractau caffael 
  • Cadarnhewch y bydd y llwybr caffael a ddilynir yn bodloni diwygiadau Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 a 2020.
  • Amlinellwch sut y byddwch yn rheoli contractau'n llwyddiannus i gyflawni'r Dangosyddion Perfformiad Allweddol y cytunwyd arnynt.

Gofynnir i ymgeiswyr ddisgrifio eu dull a nodi'r elfennau o'r Prosiect y maent yn debygol o'u caffael, cadarnhau llwybr y strategaeth gaffael a darparu manylion ynghylch sut y byddant yn rheoli'r gofynion monitro, y contract a dangosyddion perfformiad.

Bydd gofyn i chi ddilyn llwybr caffael y CFfG a'r trothwyon sy'n berthnasol yn ardal eich awdurdod lleol.

 

 

 

 

Rhan 6 - rheoli prosiectau a phrofiad yr ymgeisydd

Atebwch bob cwestiwn mewn 750 gair neu lai. Byddwch mor gryno â phosib. 

6a) Sut byddwch chi'n rheoli'r prosiect? Os yw hwn yn brosiect amlasiantaeth, sut caiff ei reoli'n effeithiol? Cofiwch gynnwys manylion eich trefniadau llywodraethu ar gyfer y prosiect.  

Mae ymarferoldeb prosiectau yn elfen sylweddol o'r meini prawf a ddefnyddir i asesu cynigion ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Mae'n bwysig inni fod yn hyderus y gall sefydliadau sy'n cael cynnig cyllid roi eu prosiectau ar waith yn gyflym ac yn effeithiol.

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sefydliadau'n gallu defnyddio profiad perthnasol ac yn gallu dangos bod ganddynt, neu y bydd ganddynt, fynediad at yr adnoddau a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gyflenwi'r prosiect.

6b) Disgrifiwch y systemau a'r prosesau ariannol a monitro perfformiad a ddefnyddir i gofnodi gwariant ac allbynnau/canlyniadau'r prosiect yn gadarn. 

Mae angen i'ch ymateb gynnwys yr hyn y byddwch yn ei roi ar waith, y rheolaethau a'r prosesau a sut y byddwch chi ac unrhyw ddarparwr allanol yn casglu, cofnodi, rhoi tystiolaeth a storio gwybodaeth. Cynhwyswch fecanweithiau adrodd, amserlenni ac amseriadau a sut y byddwch yn rheoli adnoddau staff.

6c) Pa brofiad sydd gan y sefydliad a'r partneriaid (lle bo hynny'n berthnasol) mewn darparu'r math hwn o weithgarwch? 

Fel rhan o'ch ymateb:

  • Disgrifiwch yr adnoddau a'r arbenigedd perthnasol sydd gan y sefydliad yn awr i gyflawni'r prosiect
  • Os bydd angen i'r sefydliad recriwtio staff neu benodi contractwyr, pa gynlluniau sydd ar waith i reoli'r risg o oedi.

Rhowch enghraifft o brofiad wrth gyflwyno'r math hwn o weithgaredd.

Rhowch fanylion y staff sy'n gweithio ar y prosiect, eu rôl, eu profiad/arbenigedd.

Dylai eich ymateb ar y risg o oedi nodi cyfnod amser yr oedi posibl ynghyd ag ateb i leihau unrhyw oedi.

 

Rhan 7 - rheoli risgiau'r prosiect

Atebwch mewn 500 gair neu lai. Byddwch mor gryno â phosib.

7a) Crynhowch y risgiau allweddol i'r prosiect isod a disgrifiwch y broses a gaiff ei defnyddio i fonitro risg. Hefyd, llenwch Atodiad A - 6) Cofrestr Risgiau 

Dylai hwn roi crynodeb clir o'r risgiau allweddol i gyflenwi gweithgaredd y prosiect a chyflawni amcanion y prosiect.

Disgrifiwch sut bydd y risg a nodwyd yn cael ei monitro, pa systemau a ddefnyddir, a phwy sy'n gyfrifol.

Byddwch yn realistig - anaml y bydd prosiectau yn rhedeg yn union fel y'u cynlluniwyd. Rhaid i'r prosiect ddangos bod risgiau wedi'u hystyried a bod cynlluniau priodol ar waith i gadw'r prosiect ar y trywydd iawn.  

Rhan 8 - gwerthuso

Atebwch mewn 500 gair neu lai. Byddwch mor gryno â phosib.

8a) Cadarnhewch y byddwch yn cadw'r holl ddata perthnasol ynghylch eich prosiect, gan gynnwys data buddiolwyr, ac yn darparu hwn ar gais i'r Corff Arweiniol Lleol, yr Arweinydd Rhanbarthol neu'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, neu ei asiantau, at ddibenion monitro neu werthuso.  

Ticiwch y blwch perthnasol.

 

8b) Os ydych yn bwriadu cynnal unrhyw werthusiad prosiect, disgrifiwch unrhyw gynlluniau sydd gennych i werthuso sut y cyflawnwyd y prosiect a'i effaith ar eich buddiolwyr arfaethedig.  

Os ydych yn bwriadu gwerthuso eich prosiect, amlinellwch y dull a pham mai dyma'r fethodoleg fwyaf perthnasol. Cynhwyswch eich cwestiynau ymchwil a chyfiawnhad, a chynllun sut y defnyddir ac y lledaenir unrhyw ganfyddiadau. os oes angen i'r Corff Arweiniol Lleol, yr Arweinydd Rhanbarthol neu'r DLUHC gynnal gwerthusiad o'r CFfGDU, cadarnhewch y byddwch yn darparu data perthnasol a nodwch sut y byddwch yn ei wneud. Bydd angen i'r trefniadau llywodraethu nodi atebolrwydd clir gydag adnoddau a nodwyd ac wedi'u hymrwymo i alluogi cyflawni amcanion y prosiect o fewn yr amserlen a nodir.

Rhan 9 - strategaeth ymadael

Atebwch mewn 500 gair neu lai. Byddwch mor gryno â phosib.

9a) Amlinellwch eich strategaeth ymadael. Ystyriwch pa weithgareddau, os o gwbl, fydd yn parhau a sut y caiff y rhain eu hariannu. 

Ar hyn o bryd, mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweithredu tan 31 Rhagfyr 2024. Mae'n bwysig i ni wybod beth yw eich cynlluniau ar gyfer diwedd eich prosiect. Fel rhan o'ch ateb, ystyriwch:

  • A ydych yn bwriadu i rai neu'r cyfan o'ch gweithgareddau barhau? Os felly, pa un/pa rai?
  • Sut bydd unrhyw weithgaredd yn y dyfodol yn cael ei ariannu?
  • Sut gallai eich prosiect gael ei ddatblygu ymhellach neu ei esblygu?
  • A fydd eich prosiect yn y pen draw yn arwain at gam cyflenwi arall?
  • Os na fydd cyflenwi'n parhau, beth ydych chi'n rhagweld fydd yn digwydd nesaf?

Rhan 10 - rheoli cymhorthdal 

Rhaid i bob cais hefyd ystyried sut y bydd yn cyflawni hyn yn unol â chyfundrefn rheoli cymhorthdal yn unol â chanllawiau Llywodraeth y DU: 

https://www.gov.uk/government/collections/subsidy-control-regime 

Lle nad yw ymgeiswyr yn dangos yn ddigonol bod y prosiect arfaethedig yn cydymffurfio â Chyfundrefn Rheoli Cymhorthdal y DU, efallai y caiff ei ystyried yn anghymwys a gallai eich cais gael ei wrthod.

10a) A yw'r dyfarniad uniongyrchol o gronfeydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU i chi (fel yr ymgeisydd) yn cael ei ystyried yn gymhorthdal? 

Ticiwch y blwch perthnasol.

Cyfeiriwch at y ddolen uchod am arweiniad pellach.

10b) Esboniwch y rhesymeg dros eich ymateb 

 

10c) Os yw dyfarniad y cyllid yn gymhorthdal, sut y bydd hyn yn cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol? 

 

10ch) A oes unrhyw agwedd ar y gweithgaredd(au) yn ymwneud â darparu cymorthdaliadau i fuddiolwyr terfynol?  

Ticiwch y blwch perthnasol.

Cyfeiriwch at y ddolen uchod am arweiniad pellach.

10d) Os na, esboniwch yn fras yr y rhesymeg dros yr ymateb hwn 

 

10dd) Os oes, eglurwch yn fras sut mae'r cymorthdaliadau'n cydymffurfio â chyfundrefn rheoli cymhorthdal y DU fel y nodir yn y canllawiau. 

 

10e) Disgrifiwch y system sydd ar waith i adrodd am a monitro unrhyw gymorthdaliadau sy'n cael eu darparu gan y prosiect 

 

 

Rhan 11 - diogelu data

Sylwer mai'r Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (yr Adran) fydd y rheolwr data ar gyfer yr holl ddata personol sy'n gysylltiedig â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gesglir yn y ffurflenni perthnasol a gyflwynir i'r Adran, a rheoli a phrosesu Data Personol.

Gwahoddwyd pob Awdurdod Lleol i gynnal proses ymgeisio leol a bydd yn Rheolwr Data ar gyfer yr holl ddata personol sy'n gysylltiedig â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU a gesglir yn y ffurflenni perthnasol fel rhan o'r broses hon, a rheoli a phrosesu Data Personol, lle na chaiff ceisiadau o'r fath eu cyflwyno i'r Adran i'w hystyried.

Bydd yr Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Arweiniol Rhanbarthol a'r Adran yn prosesu'r holl ddata yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU 2018 (UK GDPR) a'r holl ddeddfau a rheoliadau perthnasol sy'n ymwneud â phrosesu Data Personol a phreifatrwydd, gan gynnwys, pan fydd angen, yr arweiniad a'r codau ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiynydd Gwybodaeth ac unrhyw reoliadau diogelu data perthnasol eraill (a adwaenir gyda'i gilydd fel "y Ddeddfwriaeth Diogelu Data (fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd)").

Fel Prosesydd Data Personol sy'n ymwneud â Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU, rhaid i'ch sefydliad a'r Awdurdod Lleol a'r Awdurdod Arweiniol Rhanbarthol sicrhau bod Data Personol o'r fath yn cael ei brosesu mewn ffordd sy'n cydymffurfio â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data (fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd).

Drwy fwrw ymlaen i lenwi a chyflwyno'r ffurflen hon, rydych yn cydsynio y gall yr Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Arweiniol Rhanbarthol a'i gontractwyr lle bo'n berthnasol, a'r Adran, a'i chontractwyr lle bo'n berthnasol, brosesu'r Data Personol y mae'n ei gasglu gennych a defnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd fel rhan o'r cais i'r Adran am arian o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, yn ogystal ag yn unol â'i pholisïau preifatrwydd. At ddibenion asesu eich cais, efallai y bydd angen i'r Awdurdod Lleol, yr Awdurdod Arweiniol Rhanbarthol a'r Adran rannu eich Data Personol ag adrannau eraill y Llywodraeth (fel yr Adran Gwaith a Phensiynau) ac adrannau yn y Gweinyddiaethau Datganoledig, gan gynnwys sefydliadau partner, a thrwy gyflwyno'r ffurflen hon rydych yn cytuno i'ch Data Personol gael ei ddefnyddio yn y modd hwn. 

Mae gan Rheolwr Data, Data Personol, Data Personol a Phrosesydd yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddfwriaeth Diogelu Data (fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd). 

Rhan 12 - datganiad ymgeisydd y prosiect

Darllenwch y datganiad a'r amodau.

Ymgeisydd i lofnodi ei fod wedi darllen y datganiad, cadarnhau ei swydd yn y sefydliad a'r dyddiad.

 

Hanes fersiynau

Fersiwn rhif.

Tasg

Pwy

Pryd

V1.1

Dogfen ddrafft

AJJ / SG/ AP

 

V1.2

Anfonwyd am adborth

Grŵp rhanbarthol

1/12/22

V1.3

Diweddaru'r ddogfen. Gydag adborth

AJJ

12/12/22

V1.5

Wedi'i ddiweddaru gyda GE & PR & CJ

AJJ

31/1/23

V1.5

Wedi'i anfon i'w gyfieithu

AJJ

6/2/23

V.2.0

 

SG

17/2/23

Close Dewis iaith