Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Mynwent Danygraig

Mae Mynwent Dan-y-graig yn cwmpasu oddeutu 20 erw yn nwyrain Abertawe ac fe'i hagorwyd ar gyfer claddedigaethau ym 1856.

  • Mae beddau newydd ar gael er mwyn claddu eirch, ac yn ogystal, gellir ailagor beddau teuluol sydd eisoes yno (yn amodol ar ddyfnder);
  • Mae adran gladdu benodol ar gyfer y gymuned Foslemaidd sydd wedi gweithredu ers 1973;
  • Gellir claddu llwch mewn lleiniau briciau/pridd newydd a hefyd mewn beddau teulu sy'n bod;
  • Gellir gwasgaru llwch ar feddau teuluol presennol neu mewn gerddi dynodedig;
  • Mae'r gwasanaethau ar gael rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn am gyfnodau o 30 munud.

Seiri meini coffa sy'n gysylltiedig â chynllun Cofrestr Seiri Meini Coffa Achrededig Prydain (BRAMM) yn unig sy'n gallu codi cerrig coffa. Gellir codi cerrig coffa lawnt a cherrig coffa ag ymylfeini ar unrhyw fedd (yn amodol ar reoliadau).

Oriau agor

Nid oes cyfyngiadau ar fynediad i gerddwyr; fodd bynnag, caniateir cerbydau yn ystod yr oriau canlynol yn unig:

  • Dydd Llun i ddydd Iau rhwng 9.00am - 4.30pm 
  • Dydd Gwener rhwng 9.00am - 4.00pm 
  • Penwythnosau a Gwyliau Banc rhwng 10.00am - 4.00pm

Rhaid i yrwyr yrru'n araf a dangos gofal dyladwy i unrhyw gerddwyr yn y fynwent.

Mynd â chŵn am dro

Caniateir cŵn yn y fynwent ond mae'n rhaid eu cadw ar dennyn a dan reolaeth bob amser; mae'n rhaid i berchnogion cŵn ddangos parch ac ystyriaeth i ymwelwyr eraill drwy gadw at y llwybrau a pheidio â cherdded ar feddau a gerddi coffa gyda'u cŵn; mae'n rhaid codi unrhyw faw cŵn ar unwaith a'i roi yn y biniau a ddarperir. Gall goruchwyliwr y fynwent wrthod mynediad i dir y fynwent os na chydymffurfir â'r amodau hyn.

Teithio i Fynwent Dan-y-graig

Côd Post - SA1 8NB

Teithio mewn car - O'r dwyrain a'r gorllewin, gadewch yr M4 wrth Gyffordd 42 a chymerwch yr A483 (Ffordd Fabian) tuag at Abertawe. Ar ôl oddeutu 8 milltir, cymerwch y gyffordd ar y llaw dde wrth y goleuadau traffig (arwydd i Bort Tennant). Dilynwch Heol Port Tennant i'r dde a pharhewch i deithio ar ei hyd. Tua diwedd y rhes o siopau, trowch i'r chwith i Heol Dan-y-graig lle mae twmpathau cyflymder wrth i chi fynd i fyny'r bryn. Parhewch dros y cylchfan bach. Byddwch yn gallu gweld wal y fynwent ar y chwith. Parhewch tan y troad ar ddiwedd y wal. Trowch i'r chwith yma a thrwy'r gatiau i'r fynwent.

Teithio ar fws - Mae'r fynwent yn agos i lwybr bysus ac mae'r gwasanaeth yn mynd yn rheolaidd o Orsaf Fysus y Cwadrant Abertawe i Bort Tennant; mae arhosfan bysus ger y fynedfa i'r fynwent.

Teithio ar drên - Yr orsaf agosaf yw Gorsaf Abertawe ar y Stryd Fawr. Gellir cael bysus a thacsis o flaen yr orsaf. Mae'n cymryd tua 15 munud i yrru i fynwent Dan-y-graig.

Mynwent Danygraig

Enw
Mynwent Danygraig
Rhif ffôn symudol
07980 721558
Close Dewis iaith