Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Digwyddiad Nadoligaidd am ddim i bobl agored i niwed yn dychwelyd i Neuadd Brangwyn

Mae Abertawe'n dod ynghyd unwaith eto i ledaenu hwyl yr ŵyl i bobl mewn angen yn ystod digwyddiad Nadoligaidd arbennig iawn.

Together at Christmas 2022

Bydd JR Events and Catering, gyda chefnogaeth Cyngor Abertawe, yn agor drysau Neuadd Brangwyn ddydd Mawrth 5 Rhagfyr i weini cinio Nadolig dau gwrs am ddim i bobl yn Abertawe sy'n agored i niwed, yn teimlo'n ynysig neu a all fod yn ddigartref.

Cynhelir y digwyddiad Gyda'n Gilydd dros y Nadolig rhwng canol dydd a 3pm, a bydd cynrychiolwyr o amrywiaeth o wasanaethau ac elusennau'n darparu gwybodaeth am gymorth sydd ar gael.

I wirfoddoli, i gael rhagor o wybodaeth, neu i ddarparu gwasanaeth, adloniant neu gyfraniad, cysylltwch â Shannon Williams drwy e-bostio events@jr-eventsandctering.co.uk neu ffonio 01792 446017.

 

Close Dewis iaith