Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ar agor unwaith eto! Eich hwb ynni yng nghanol y ddinas

Gall preswylwyr Abertawe sy'n wynebu heriau costau byw geisio cefnogaeth annibynnol, ddiduedd ac am ddim gan wasanaeth a ariennir gan y cyngor a ail-lansiwyd yn ddiweddar.

Light bulb

Light bulb

Mae ein hwb ymwybyddiaeth ynni 'Switched On', a gynhelir gan ein partneriaid yng Nghanolfan yr Amgylchedd Abertawe, newydd ailagor yng nghanol y ddinas.

Mae'n cynnig sgyrsiau cyfeillgar, gan helpu ymwelwyr gyda meysydd fel dyled tanwydd, effeithlonrwydd ynni a newid darparwyr ynni.

Mae ar agor yng Ngweithdai Cymunedol Abertawe, 208 y Stryd Fawr, bob dydd Iau a dydd Gwener rhwng 10am a 4pm yn ogystal ag un dydd Sadwrn y mis.

Manylion llawn:

www.environmentcentre.org.uk/switched-on

 

 

 

Close Dewis iaith