Cefnogaeth i'r bwrdd
Mae gofyn i Ddinas a Sir Abertawe ddarparu cefnogaeth weinyddol i'r bwrdd. Mae hyn yn cynnwys:
- Sicrhau bod bwrdd y gwasanaethau cyhoeddus yn sefydledig ac yn cwrdd yn rheolaidd
- Gweithio gydag aelodau eraill o'r Grŵp Craidd i lunio'r agenda a'r papurau comisiynu ar gyfer cyfarfodydd mewn partneriaeth gyfartal â'r aelodau craidd.
- Gwahodd cyfranogwyr a rheoli presenoldeb
- Gweithio ar yr adroddiad blynyddol
- Paratoi tystiolaeth ar gyfer y panel craffu
Fodd bynnag, y bwrdd cyfan sy'n gorfod penderfynu sut bydd yn darparu adnoddau ar gyfer y swyddogaethau y mae'n rhai iddo eu cyflawni, ac mae gan bob aelod statudol gyfrifoldeb cyfartal am hyn. Caiff Aelodau Statudol eu gwahodd hefyd i gyfrannu at gostau ariannol cefnogaeth weinyddol hefyd (ond nid yw'n ofynnol iddynt wneud hynny).
Yn ogystal â chefnogaeth weinyddol, cyfrifoldeb y bwrdd yw penderfynu ar y modd priodol a chymesur o ddarparu adnoddau ar gyfer ei gyd-swyddogaethau.