Y gwahaniaeth rhwng aelodau statudol, cyfranogwyr gwahoddedig a phartneriaid eraill
Y pedwar aelod statudol yw'r penderfynwyr ffurfiol sy'n gyfrifol am weithrediad a gweithgareddau'r bwrdd. Mae gofyn iddynt gyfranogi dan yr amodau a bennwyd gan yr arweiniad statudol.
Dyma bedwar aelod statudol y bwrdd:
- Dinas a Sir Abertawe(Arweinydd a Phrif Weithredwr)
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (naill ai'r Cadeirydd, y Prif Weithredwr neu'r ddau)
- Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (naill ai'r Cadeirydd, y Prif Swyddog neu'r ddau)
Mae'n rhaid i gyfranogwyr gwahoddedig gael eu gwahodd gan y bwrdd yn ôl y gyfraith, er nad oes gofyn iddynt dderbyn y gwahoddiad. Wedi iddynt dderbyn y gwahoddiad, fodd bynnag, byddant yn cyfranogi yn yr un ffordd ag aelod statudol, heblaw am y ffaith na fyddant yn ymwneud â'r broses benderfynu ffurfiol. Mae ganddynt hawl i gyflwyno sylwadau i'r bwrdd am asesiadau lles lleol a'r cynllun lles lleol, cymryd rhan mewn cyfarfodydd y bwrdd a darparu cyngor a chymorth arall.
Dyma'r cyfranogwyr y mae'n rhaid eu gwahodd:
- Gweinidogion Cymru
- Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru
- Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Heddlu De Cymru
- Cynrychiolydd o'r Gwasanaeth Prawf
Bydd y cadeirydd yn ysgrifennu at gyfranogwyr gwahoddedig i ofyn iddynt ymuno â'r bwrdd, gan nodi'r rhesymau am y gwahoddiad a'r hyn a ddisgwylir gan y person gwahoddedig.
Y partneriaid eraill yw'r sefydliadau hynny yn yr ardal sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur ac:
- y mae ganddynt fudd perthnasol yn lles yr ardal
- sy'n cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus pwysig
- sy'n ymwneud â pharatoi, gweithredu a chyflawni gwaith y bwrdd
Bydd y partneriaid yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Gynghorau Cymuned a Thref
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
- Cynghorau Iechyd Cymunedol
- Awdurdodau Parciau Cenedlaethol
- CCAUC
- Sefydliadau Addysg Bellach neu Uwch
- Cyngor Celfyddydau Cymru
- Cyngor Chwaraeon Cymru
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Mae'n rhaid i bartneriaid eraill gymryd rhan yng ngwaith y bwrdd a gellir eu gwahodd hefyd i fod yn gyfranogwyr.
Ar ôl ymuno â'r bwrdd, bydd partneriaid eraill yn cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn yr un ffordd a chyfranogwyr gwahoddedig eraill.
Mae'r rhestr bresennol o gyfranogwyr gwahoddedig ar gael yn yr Arweiniad Cyffredinol i Fwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus