
Cyfarwyddiadau a Mynediad
Cyfarwyddiadau a Mynediad
Mae Neuadd Brangwyn yn ganolfan bywyd cymdeithasol a diwylliannol boblogaidd yn Neuadd y Ddinas, Abertawe. Dyma un o'r prif leoliadau diwylliannol yn Abertawe, ac mae'n aml yn cael ei ddefnyddio ar gyfer priodasau ac achlysuron eraill.
Neuadd Brangwyn,
Neuadd y Ddinas,
Abertawe
SA1 4PE
Brangwyn
(ar agor yn ystod digwyddiadau'n unig)
- Mynediad drwy lifft allanol o dan risiau mynedfa'r Brangwyn - Heol y De. Wrth i chi wynebu'r grisiau, mae'r drws ar yr ochr dde o dan y grisiau.
- Mae toiled hygyrch i bobl anabl ym mar y Brangwyn
- Mae toiled Changing Places ar gael ym mar y Brangwyn (angen allwedd RADAR i'w ddefnyddio - mae allwedd ar gael gan staff y bar a stiwardiaid y neuadd).
- Cyfleusterau newid cewynnau ar gael ym mar y Brangwyn
Neuadd Siôr
- Gellir ei chyrraedd mewn cadari olwyn o fynedfa Neuadd y Ddinas, Heol y De, drwy'r lifft (botwm 1) ger y fynedfa (mae rhan gulaf y llwybr yn 750mm o led).
Neuadd y Ddinas
Mynedfa Hygyrch
- Heol y De
- Fe'ch cynghorir i ffonio Diogelwch 01792 636000 os bydd angen mynediad ar ôl 4.30 pm ar ddiwrnodau'r wythnos neu ar benwythnosau.
Meysydd Parcio
- Canllaw parcio yma (Saesneg).
Canllaw Parcio Y Brangwyn (PDF, 1MB)Yn agor mewn ffenest newydd
Siambr y Cyngor, Parlwr yr Arglwydd Faer, Ystafell Dderbyn ac Ystafelloedd Pwyllgor
- Ar y llawr gwaelod uwch
- Mynediad drwy fynedfa hygyrch Heol Neuadd y Ddinas - De a'r lifft (botwm 2)
Toiledau Hygyrch i Bobl Anabl
- Neillryw - Llawr gwaelod isaf (ardal y dderbynfa)
Llawr cyntaf (gyferbyn â Pharlwr yr Arglwydd Faer) - Menywod - ar ochr y gogledd, drws nesaf i'r lifftiau ar y llawr gwaelod, y llawr cyntaf a'r ail lawr.
Sut mae cyrraedd yno
Mae gorsaf British Rail, y Stryd Fawr, Abertawe, yn orsaf hygyrch. Mae'n ddoeth cysylltu â British
Rail i drafod trefniadau/cymorth.
Ffôn: 08453 003 005
Gorsaf AbertaweYn agor mewn ffenest newydd
Tacsi
Data Cabs 01792 474747
Bysus
Mae bron pob bws bellach yn hygyrch
Mae Gorsaf Fysus y Cwadrant yng nghanol y ddinas. Mae bysus ar gael o Orsaf y Stryd Fawr a Gorsaf Fysus y Cwadrant.
Ewch i'r wefan First CymruYn agor mewn ffenest newydd i gael gwybodaeth am hygyrchedd ac amserlenni bysus.
Y safle bws agosaf i'r fynedfa hygyrch i Neuadd y Ddinas/Neuadd Brangwyn yw arhosfan Heol y De.