
Ddim yn hapus gyda phenderfyniad Gostyngiad Treth y Cyngor?
Ydych chi'n anghytuno â phenderfyniad eich cais am Ostyngiad Treth y Cyngor?
Pan fyddwn ni'n gwneud penderfyniad, byddwn yn anfon llythyr atoch a fydd yn dweud wrthych sut y cyfrifwyd eich Gostyngiad Treth y Cyngor. Bydd y llythyr hefyd yn nodi dyddiadau dechrau a gorffen eich cais.
Os nad ydych yn deall ein penderfyniad neu os ydych am wybod mwy, cysylltwch â ni cyn gynted â phosib i ofyn am ragor o fanylion.
O ganlyniad i'r cyfarwyddiadau diweddar gan y Llywodraeth, mae'r llinellau ffôn ar gau dros dro. E-bostiwch eich ymholiad at budd-daliadau@abertawe.gov.uk a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosib. Mae gennym nifer fawr o ymholiadau ar hyn o bryd, felly byddwch yn amyneddgar.
Os mai chi yw'r person sy'n hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor ac rydych yn meddwl bod penderfyniad a wnaed gennym am eich gostyngiad yn anghywir, dylech ysgrifennu atom gan gadarnhau:
- pa benderfyniad rydych yn anghytuno ag ef
- a'r rhesymau dros anghytuno ag ef
Gallwch lawrlwytho a chwblhau'r ffurflen Apêl Gostyngiad Treth y Cyngor isod neu ysgrifennwch lythyr at y Tîm Apeliadau Budd-daliadau, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN, neu e-bostiwch eich ffurflen a'r llythyr wedi'u llenwi at budd-daliadau@abertawe.gov.uk
Ffurflen Anghydfod/Apêl Treth y Cyngor (PDF, 43KB)Yn agor mewn ffenest newydd
Os na chewch ateb o fewn deufis, cewch apelio'n uniongyrchol i Wasanaeth Tribiwnlys Prisio Cymru. Mae'n rhaid cyflwyno'ch apêl cyn pedwar mis i'r dyddiad yr ysgrifennoch at yr awdurdod.
Cewch fwy o wybodaeth am apelio yn erbyn swm Gostyngiad Treth y Cyngor a ddyfarnwyd i chi ar wefan y Tribiwnlys PrisioYn agor mewn ffenest newydd