Y Gwasanaeth Disgownt Amddiffynwyr newydd
Bydd hen filwyr yn manteisio ar gynllun newydd sy'n cynnig disgowntiau ar y stryd fawr.
Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi lansio Gwasanaeth Disgownt Amddiffyn newydd, fel rhan o Gyfamod y Lluoedd Arfog, i gydnabod eu gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog.
Mae'r Gwasanaeth Disgownt Amddiffynwyr ar gael i aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys personél sy'n gwasanaethu a milwyr wrth gefn, hen filwyr y Lluoedd Arfog, priod/partner personél, a gweddwon/partneriaid y rhai a fu farw. Mae hefyd ar gael i weision sifil y Weinyddiaeth Amddiffyn, aelodau Lluoedd y Cadlanciau a phersonél NATO sy'n gwasanaethu mewn gorsafoedd yn y DU.
Mae nifer o gwmnïau proffil uchel yn gysylltiedig â'r Gwasanaeth Disgownt Amddiffynwyr: Vodafone, KFC, Sinemâu Vue a nifer o'r prif archfarchnadoedd, siopau dillad a chwmnïau technegol.
Maent yn cynnig disgowntiau ar geir, gliniaduron, siopa mewn archfarchnadoedd, gwyliau a ffonau symudol. Mae'r rhestr yn tyfu a disgwylir y bydd mwy o gwmnïau yn dechrau cynnig eu cymorth i'r rhai hynny sydd eisoes yn ymroddedig i helpu i wneud bywyd ychydig yn haws i Gymuned y Lluoedd Arfog.
Gellir cael gafael ar ystod eang o ddisgowntiau a breintiau ar-lein ar unwaith. Mae cerdyn ffyddlondeb hefyd yn rhan allweddol o'r Gwasanaeth Disgownt Amddiffynwyr newydd ac yn hwyrach eleni bydd ar gael i aelodau am dâl bach, a fydd yn gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r disgowntiau mewn siopau ac ar-lein.
Cysylltiadau
Mae gwefan y Gwasanaeth Ddisgownt Amddiffynwyr bellach ar-lein. Am fwy o wybodaeth ewch i gwefan Gwasanaeth Disgownt AmddiffynYn agor mewn ffenest newydd.
I gael eu newyddion diweddaraf cysylltwch â'u tudalen FacebookYn agor mewn ffenest newydd neu dilynwch hwy ar Twitter @discounts_modYn agor mewn ffenest newydd.