Dewis trefnydd angladd
Wrth ddewis trefnydd angladd mae'n bwysig sicrhau eich bod yn fodlon ar y gwasanaeth rydych yn ei dderbyn. Dylai trefnydd yr angladd roi amcangyfrif o'r holl gostau wedi'i eitemeiddio.
Gallwch gael cyngor ar gostau trefnwyr angladdau gan y Gwasanaeth Cynghori AriannolYn agor mewn ffenest newydd
Gellir cymharu costau trefnwyr angladdau yn Your Funeral ChoiceYn agor mewn ffenest newydd
Er na allwn argymell trefnydd angladd, gallwn eich cynghori ar bob agwedd ar drefniadau angladd. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch Wasanaethau Profedigaeth.
Bydd nifer o drefnwyr angladdau'n aelodau o sefydliadau proffesiynol sy'n gweithredu côd ymddygiad a gweithdrefn gwyno.
Am fwy o wybodaeth, ewch i'r gwefannau canlynol:
- Cymdeithas Genedlaethol Trefnwyr AngladdauYn agor mewn ffenest newydd
- The Society of Allied and Independent Funeral Directors (SAIF)Yn agor mewn ffenest newydd
Mae'r sefydliadau hyn yn cael eu gweithredu gan drefnwyr angladdau ar gyfer trefnwyr angladdau. Os oes angen i chi gwyno am drefnydd angladd, gallwch gysylltu â Safonau Masnach.