Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithiwr Cymorth Dydd (Benyw) X 2 (dyddiad cau: 28/07/25)

£25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn. Mae Gwasanaeth Dydd Anghenion Arbennig Trewarren yn chwilio am berson llawn cymhelliant, brwdfrydig a gofalgar (benyw) i weithio o fewn Gwasanaeth Dydd sefydledig, 30 awr yr wythnos o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Teitl y swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd (Benyw) X 2
Rhif y swydd: SS.1387
Cyflog: £25,584 - £26,409 pro rata y flwyddyn
Disgrifiad swydd: Gweithiwr Cymorth Dydd (SS.1387) Disgrifiad Swydd (PDF, 256 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Gwasanaethau Cymdeithasol

Gwnewch gais ar-lein nawr am y swydd SS.1387

Dyddiad cau: 11.45pm, 28 Gorffennaf 2025

Rhagor o wybodaeth

Oherwydd natur y gwasanaeth, rydym yn chwilio am fenyw i gefnogi unigolion sydd ag anableddau dysgu a chorfforol dwfn ac yr ystyrir bod ganddynt rai ymddygiadau a allai herio'r gwasanaeth maen nhw'n ei dderbyn. Byddai profiad o drin â llaw, gofal personol, rheoli ymddygiad cadarnhaol, epilepsi a gweinyddu meddyginiaeth yn hanfodol. Mae parodrwydd i gefnogi'r defnyddiwr gwasanaeth i ddilyn ystod o weithgareddau dyddiol er mwyn iddynt gyflawni eu canlyniadau cytunedig yn hanfodol. 

Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus angen NVQ/QCF Lefel 2 mewn gofal neu'n barod i weithio tuag at y cymhwyster proffesiynol hwn. 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Sheridan Evans ar 01792 792160/785020/07508010256 neu Steve Cook ar 07919626421.

Diogelu
Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol I holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch I https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Gorffenaf 2025