Technegydd (dyddiad cau: 30/07/25)
£25,854 - £26,409 y flwyddyn. Mae cyfle wedi codi yn Theatr y Grand a Neuadd Brangwyn, i Dechnegydd proffesiynol ac ymroddedig sy'n gallu dod â phrofiad technegol ynghyd â gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol, sgiliau arsylwi a brwdfrydedd i'r tîm.
Teitl y swydd: Technegydd
Rhif y swydd: PL.64230-V1
Cyflog: £25,854 - £26,409 y flwyddyn
Disgrifiad swydd: PL.64230-V1 Technegydd Disgrifiad swydd (PDF, 220 KB)
Cyfarwyddiaeth/adran: Lle
Gwnewch gais ar-lein nawr am y sywdd PL.64230-V1
Dyddiad cau: 11.45pm, 30 Gorffennaf 2025
Mwy o wybodaeth
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol, o dan arweiniad Rheolwr Neuadd Brangwyn, am weithredu a sefydlu gofynion technegol y cynyrchiadau sy'n ymweld yn effeithiol yn ogystal â diogelwch, glendid, diogelwch cwsmeriaid a gweithdrefnau brys.
Ar ben hynny, bydd gofyn i chi sefydlu a dad-rigio offer a rhyngweithio â'r cast a'r criw sy'n ymweld. Bydd angen i chi fod yn barod i weithio ar uchder ac i allu symud offer yn gorfforol.
Mae'r swydd yn gontract 37 awr. Mae angen i ymgeiswyr fod yn hyblyg gyda gwaith gyda'r nosweithiau, penwythnosau a shifftiau gŵyl y banc yn ôl yr angen gyda'r gofynion ar yr adeilad.
Diogelu
O fewn Cyngor Abertawe mae egwyddor "Diogelu yw Busnes Pawb", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr Cyngor Abertawe.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol